English | Cymraeg

Karen Lawrence

Cydymaith Alwmni

Pennaeth Ysgol Gynradd Llanfaes yn Aberhonddu yw Karen Lawrence ers 2005. Yn 2019 cafodd Karen ei secondio fel Pennaeth Sector Cynradd ERW ac fel Cynghorydd Her i Bowys. Bu’n Gadeirydd Bwrdd Cyfeirio Prifathrawon ERW ers 2015 ac mae ganddi MA mewn Arweinyddiaeth Addysg.

Fel Cydymaith mae Karen wedi bod yn gweithio a’r nifer o brosiectau ac ardaloedd gwaith gan gynnwys hyfforddi, hwyluso, cyd-ysgrifennu Ein Galwad i Weithredu a chefnogi Pen-i-Ben, lle lles wythnosol yr Academi Arweinyddiaeth i benaethiaid. Cydweithiodd Karen â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar y Bwrdd Cyflawni Gweithredol ac Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu, yn ogystal â mentora a hyfforddi penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro ym Mhowys.

“Roedd dod yn Gydymaith yn golygu cymryd y naid o ffydd yn y lle cyntaf a bod yn rhan o gyd-adeiladu’r Academi Arweinyddiaeth gydag unigolion ysbrydoledig – fy nghydweithwyr yng ngharfan 1 a’r rhai a’n harweiniodd – i adeiladu sefydliad a fydd, rwy’n credu, yn cael effaith barhaol ar ganlyniadau i blant drwy arweinyddiaeth effeithiol.”

Mae gan Karen flas eclectig mewn cerddoriaeth o Sweet Child of Mine i Sweet Caroline a phopeth yn y canol. Mae hi hefyd yn gefnogwr pêl-droed brwd ond emosiynol i Manchester United drwy’r amseroedd da a’r drwg, ac ar ôl colled (yn enwedig i rai timau) mae ei theulu’n ceisio ei hosgoi!

llanfaes.powys.sch.uk

@LlanfaesSchool

Karen Lawrence

Cymdeithion Alwmni

Gweld y Cyfan
Trefor Jones

Cydymaith Alwmni

Tania Rickard

Cydymaith Alwmni

Sarah Coombes

Cydymaith Alwmni