Pennaeth Ysgol Uwchradd Mary Immaculate yng Nghaerdydd yw Huw Powell. Mae Huw wedi gweithio yn y sector addysg ers 25 mlynedd, gan dreulio 12 mlynedd mewn rolau arweinyddiaeth uwch. Mae’n fentor ac yn hyfforddwr ar gyfer ymgeiswyr CPCP ac yn ddarpar uwch arweinwyr. Sefydlodd Huw’r Rhaglen Arweinyddiaeth Ysgolion yr Eglwys, cwrs mwyaf o’i math yn y DU.
Fel Cydymaith, mae Huw wedi cyfrannu at gynhyrchu, cyhoeddi a lledaenu comisiwn carfan 1, Ein Galwad i Weithredu, wedi arwain ar sioeau teithiol y comisiwn ac wedi bod yn gynrychiolydd ar bwyllgorau Llywodraeth Cymru fel y pwyllgor Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar.
Mae Huw yn falch o fod yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru i gyd-adeiladu a datblygu’r Academi Arweinyddiaeth, sydd, yn ei gred ef, yn rhywbeth arloesol a phwerus i Gymru. Mae’n awyddus i barhau i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr i gefnogi gwaith yr Academi Arweinyddiaeth ar draws y sector addysg i fod yn esiampl o ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru.
Mae Huw yn cyflwyno podlediad, EdChat Wales gyda gyd-Gydymaith Janet Hayward.