Mae David Thomas (Dai) yn Bennaeth Ysgol Gynradd Portmead, ysgol o tua 230 o ddisgyblion ychydig i’r gogledd o Ganol Dinas Abertawe. Mae David wedi bod yn addysgu ers 2004 ac mae ganddo brofiad mewn amrywiaeth o ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd a Phort Talbot. Roedd David yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Tonmawr cyn dechrau yn y swydd fel Pennaeth yn 2015.
Ers 2021, mae David wedi cael secondiad i Dîm Gwella Ysgolion Abertawe fel Cynghorydd Gwella Ysgolion ac mae wedi arwain y tîm ers mis Medi 2022.
Fel Cydymaith, mae David yn edrych ymlaen at gydweithio ag arweinwyr addysgol o bob rhan o Gymru i adeiladu system sy’n seiliedig ar hunanfyfyrio a gwella effeithiol.
Mae David yn byw gyda’i bartner Bethan a’u mab tair oed Ioan. Mae Bethan wedi ailhyfforddi fel athrawes yn ddiweddar a bydd yn dechrau yn ei swydd fel NQT ym mis Medi. Mae David a Bethan yn dod o deuluoedd athrawon. Mae yn y gwaed!
Y tu allan i’r gwaith, mae David yn hwyliwr brwd ac yn mwynhau pob math o chwaraeon dŵr. Yn y gorffennol, mae’r cariad hwn wedi mynd ag ef i wahanol rannau o Ewrop gan gefnogi plant a phobl ifanc trwy raglenni hwylio hamdden ac elitaidd. Mae’n griw gwirfoddol ar fwrdd bad achub y Mwmbwls RNLI ac mae wedi gwasanaethu am 23 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau morol.