Skip to main content
English | Cymraeg

Penny Ellwood

Cydymaith

Mae Penny yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, Wrecsam. Mae ei phrofiadau wedi cynnwys gwaith ar Raglen Partneriaeth Cyfoedion a Gwella Ysgolion GwE, prosiect OLEVI a Her Ysgolion Cymru. Mae’n frwdfrydig i barhau â’i gwaith ar Arloesedd ar Waith yn dilyn gwaith llwyddiannus yn canolbwyntio ar raglen gydweithredol Lyn Sharratt Clarity. Mae Penny hefyd yn Aelod o Banel Cymeradwyo Cymwysterau Cymru ac mae wedi bod yn ymwneud â gwaith ymgynghorol gyda Grŵp Gwella Strategol yr Academi Addysg Uwch.

“Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo egwyddorion hunan-wella fel sylfeini allweddol i wella unigolion ac ysgolion fel sefydliadau dysgu a modelu canlyniadau i ddangos yr effaith gadarnhaol y gall arweinyddiaeth gydweithredol ei chael ar gyfoethogi profiad.”

Mae gan Penny ddiddordeb mawr mewn dylunio mewnol a DIY. Mae hi wedi mwynhau adnewyddu bwthyn yn ddiweddar, uwchgylchu dodrefn ac mae bob amser yn chwilio am ei phrosiect creadigol nesaf. I ymlacio mae Penny yn treulio amser ym Mhen Llyn gyda’i theulu yn mynd am dro hir, yn chwarae golff ac yn padlfyrddio.

Penny Ellwood

Cwrdd â Charfan 5

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Cydymaith

Geraldine Foley

Cydymaith

Margaret Davies

Cydymaith