Mae Owain Jones wedi bod yn bennaeth yn Ysgol Gyfun Aberaeron ers 2015 a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Bennaeth yn yr ysgol. Dechreuodd Owain ei yrfa yn Ysgol Y Strade yn Llanelli a chafodd gyfle i ddatblygu sgiliau arwain amrywiol tra yn y swydd hon. Ar hyn o bryd mae Owain yn fentor i arweinwyr ar raglenni datblygu arweinyddiaeth uwch a’r cymhwyster CPCP ac mae’n arolygydd cymheiriaid i Estyn.
“Mae cynnal rôl arweinydd mewn ysgol yn her gyffrous ac rwy’n ymwybodol iawn o’r cyfrifoldeb sydd gan bob arweinydd i ymwneud â datblygiad proffesiynol fel y gallwn sicrhau’r profiad gorau posib i’r dysgwyr yn ein hysgolion. O ganlyniad, rwyf wedi ymgymryd â rhaglenni arweinyddiaeth amrywiol trwy gydol fy ngyrfa ac yn awyddus i gefnogi eraill a chyfrannu at y system addysg yng Nghymru.
Rwy’n gyffrous iawn i fod yn Gydymaith gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Rwy’n awyddus iawn i ddysgu gan arweinwyr eraill yng Nghymru a thu hwnt er mwyn i mi allu gwella’r ddarpariaeth ar gyfer y dysgwyr yn fy ysgol a chyfrannu at welliant parhaus arferion addysg ar lefel leol a chenedlaethol.”
Mae Owain yn briod i Bethan, ac maent yn rhieni i efeilliaid ifanc, Osian a Sara. Maent yn mwynhau archwilio rhai o lwybrau beicio teuluol Cymru ac ymweld â’u teuluoedd.