Pennaeth Ysgol Gynradd Maindee yng Nghasnewydd yw Joanne Cueto. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys pennaeth Ysgol Gynradd Waunfawr (2013–2019), dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Palmerston (2010-2012) a dirprwy bennaeth dros dro Ysgol Gynradd Hollybush (2007-2010).
Fel Cydymaith mae Joanne yn edrych ymlaen at gefnogi ac ysbrydoli datblygiad arweinyddiaeth o ansawdd uchel mewn addysg a chael cyfle i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ledled Cymru i dyfu system addysg o’r radd flaenaf i bob plentyn.
Mae gan Joanne ddau o blant sy’n ei chadw’n brysur iawn. Mae hi’n hoffi cwrdd â ffrindiau ac mae’n mwynhau bwyta allan. Mae hi hefyd yn hoff o dreulio amser yn yr awyr agored yn yr awyr iach a dod o hyd i ffyrdd o fod yn egnïol.