Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol

Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol

Dyddiad ac Amser:

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024 4:00-5:30yp

Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad ar y cyd Dosbarth Meistr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Datgloi Arweinyddiaeth Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, lle y bydd Carol Campbell o Brifysgol Glasgow yn arwain trafodaeth ar ddysgu proffesiynol a gwelliant addysgol. Fel un o awduron Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i ymgysylltu â chydweithwyr ledled Cymru ynglŷn â nodweddion ymarfer myfyriol effeithiol a’r amodau sy’n angenrheidiol ar ei gyfer.

Mae’r syniad o ymarfer myfyriol a’r defnydd ohono yn rhan hen sefydledig ac annatod o fywydau a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru. Trwy ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol o fewn y sector addysg a’r tu allan iddo, yn ogystal â phrofiadau a safbwyntiau cyfranogwyr, byddwn yn archwilio’r cwestiwn canolog “beth y mae ei angen nawr a nesaf i sicrhau bod ymarfer effeithiol yn cael ei gefnogi a’i ymsefydlu yng Nghymru?”. Mae arweinwyr ac arweinyddiaeth, ar bob lefel, sy’n ymwneud ag ymarfer myfyriol, ei annog, a sicrhau cefnogaeth iddo er budd y gweithlu addysg, dysgwyr, a’u cymunedau, yn allweddol i hyn.

Bydd Carol yn trafod y cysyniad, y nodweddion, a’r amodau sy’n ofynnol ar gyfer ymarferion myfyriol effeithiol i gefnogi buddion cadarnhaol i unigolion sy’n ymwneud â’u hymarfer myfyriol eu hunain, ymarfer myfyriol ar y cyd, ac arwain ymarfer myfyriol.

Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir fod ymarfer myfyriol, o’i ddefnyddio’n effeithiol, yn gallu bod o fudd i weithwyr proffesiynol, dysgwyr, a gwelliannau addysgol i sefydliadau a systemau. Mae gweithlu addysg a dysgwyr Cymru yn haeddu dim llai.

Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pob uwch arweinydd mewn ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO).