Mae cyfraddau presenoldeb yr ysgol dros y pum mlynedd diwethaf wedi disgyn ac yn sicr mae’r cyfnod clo Covid wedi effeithio ar y data. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae presenoldeb yr ysgol yn dechrau dangos cynnydd positif o ganlyniad i nifer o strategaethau sirol a chenedlaethol. Yn 2018/19, presenoldeb yr ysgol oedd 95%. Erbyn 21-22, roedd hwn yn 91.63%. Erbyn heddiw, mae presenoldeb yr ysgol yn dangos gwelliant a thueddiad o gynnydd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
2018/19: 95%
2019/2020: 94.24%
2020/2021: 94.86%
2021/2022: 91.63%
2022/2023: 92.21%
Mae YGG Pontardawe wedi gweld effaith positif eleni o ran cyfraddau presenoldeb gyda gwelliant o +1.37% o gymharu â’r flwyddyn gyntaf yn dilyn y cyfnod clo. Mae hyn yn wir ar ddata presenoldeb cyfan ar sir Castell Nedd Port Talbot gyda chynnydd o +2.27% ers y cyfnod clo.
Defnyddia’r ysgol ganllawiau sirol yn ogystal â phrosesau mewnol er mwyn targedau rhieni, disgyblion bregus ac ail gysylltu â theuluoedd oedd yn peri gofid.
Dilyna’r ysgol bolisi diwygiedig ar ‘Bresenoldeb a Phrydlondeb’ newydd y sir a sicrhau cyswllt agos gyda Swyddog Lles y sir. Cynhelir y cyfarfodydd yn fisol naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithiol ar TEAMS. Diben y cyfarfodydd yma yw trafod lefelau presenoldeb disgyblion sydd o dan 90% wrth hysbysu llythyrau cam 1 a 2.
Cam 1:
Llythyr cychwynnol yn hysbysu bod lefel presenoldeb y plentyn o dan ddisgwyliadau/targed yr ysgol. Angen gwelliant o fewn 1 mis.
Cam 2:
Ail hysbysiad yw’r llythyr hwn os nad yw’r lefelau presenoldeb wedi gwella ers y llythyr cychwynnol. Gyda mwyafrif o’r achosion, dyma’r cam olaf.
Cam 3:
Cyfarfod ffurfiol gyda’r pennaeth, rhieni a’r Swyddog Lles yn bresennol. Trafod lefelau presenoldeb a chyfle i adeiladu perthynas i ddatrys rhesymau dros absenoldeb y plentyn.
Atgyfeirio i dîm Lles:
Dyma’r cam diwethaf yn y broses, os nad oes unrhyw welliant o ran lefelau presenoldeb y plentyn, mae’r ysgol yn llunio cais i gyfeirio at y tîm lles. Dyma lle gall rhieni dderbyn cefnogaeth allanol/gwasanaethau cymdeithasol.
Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi bod agweddau rhieni at bresenoldeb wedi cael ei effeithio ers y cyfnod clo yn fawr iawn. Maent yn dewis peidio danfon eu plant i’r ysgol ac yn tynnu plant allan o’r ysgol am wyliau heb eu hawdurdodi. Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar les y plentyn heb sôn am bresenoldeb cyffredinol ar yr ysgol.
Mae’r ysgol yn cynnig sawl gweithdrefn a noder isod:
*Cyflogi Ci Therapi 1 diwrnod yr ysgol am 3 awr
*Cyflogi Swyddog Ymglymiad Rhieni am ddau ddiwrnod yr wythnos
*Caffi Rhieni wythnosol
*Cylch Ti a Fi wythnosol
*’Ap’ Lles a ddefnyddir gan ddisgyblion yn ddyddiol
*Proses o ddadansoddi teimladau lles disgyblion
*Dathlu presenoldeb gorau’r dosbarth yn wythnosol
*Rhieni yn derbyn crynodeb ar bresenoldeb unwaith pob hanner tymor
Yn sicr mae’r gweithdrefnau yma yn cael effaith bositif ar godi a gwella lefelau cyfraddau presenoldeb ar yr ysgol er y byddai’r ysgol wedi dymuno gweld cynnydd mwy pendant rydym ar y trywydd cywir. Y buddsoddiad mwyaf oedd penodi Swyddog Ymglymiad Rhieni. Prif ddiben y rôl yw hybu a gwella cyswllt rhieni trwy gynnal cyfarfodydd anffurfiol, cynnig cymorth ac ymweliadau teuluol yn y cartref. Dyma lle gall rhieni gael eu cyfeirio at gymorth mewn awyrgylch gartrefol heb deimlo dan fygythiad er mwyn datrys a / neu ddod o hyd i resymau pam nad yw’r plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mewn cyfnod byr, rydym wedi gweld teuluoedd oedd yn peri gofid wrth beidio dod â’u plant i’r ysgol yn rheolaidd yn llawer mwy agored i rannu eu gofidiau neu broblemau. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar yr ysgol. Rydym wedi gweld bod nifer sylweddol o rieni ddim yn cyrraedd dros cam 2 ym mholisi presenoldeb a phrydlondeb yr ysgol.