Mae Ceri yn Bennaeth Ysgol/Dirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun Treforys yn Abertawe ac ar hyn o bryd ar secondiad i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel Arweinydd y Prosiect Addysgeg. Mae hi’n angerddol am ddysgu ac addysgu a datblygu arfer trwy sicrhau arweinyddiaeth strategol addysgeg.
Dechreuodd Ceri ei gyrfa fel athrawes ddaearyddiaeth yn 1997, ac mae wedi gweithio mewn sawl ysgol ar draws De Cymru. Mae hi’n Arolygydd Cymheiriaid Estyn ac roedd yn bennaeth Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb am waith Arloesol Cwricwlwm i Gymru yn Ysgol Y Pant. Mae’n awyddus i sefydlu sgyrsiau cenedlaethol a rhwydweithiau o arweinwyr i adeiladu cwricwlwm effeithiol a llwyddiannus ar gyfer pobl ifanc Cymru.
Mae Ceri yn efeilles union yr un fath ac yn treulio cymaint o amser â’i brodyr a’i chwiorydd a’i nai â phosib. Mae hi’n hoff iawn o chwaraeon a gellir dod o hyd iddi’n rheolaidd yn y gampfa, allan gyda ffrindiau am latte neu’n darllen detholiad eithaf eclectig o lyfrau. Mae ganddi 3ydd gwregys Dan Du mewn Karate ac weithiau gellir ei gweld ar Kawasaki Ninja.