Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Y Dderi

LPL GreenYsgol Y Dderi

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol y Dderi yn ysgol wledig, gymunedol gyda dalgylch eang. Lleolir yr ysgol ym mhentref Llangybi, Ceredigion. Mae 120 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr. Mae 8% yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 17% anghenion dysgu ychwanegol. Cymraeg yw prif iaith yr ysgol, ac mae 71% yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

 

Dull gweithredu

Y prif reswm am y gwaith hwn oedd datblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithio oddi mewn i’r ysgol a’r tu allan iddi er mwyn rhannu syniadau, gwybodaeth, ymchwil ac arbenigedd. Hefyd, roeddem am ddatblygu yn broffesiynol er budd yr holl staff a disgyblion ar sail ethos o welliant parhaus.

Ar lefel ysgol, mae gennym ethos agored a gonest, ac rydym yn cynnal sgyrsiau proffesiynol yn rheolaidd fel rhan o’n cyfarfodydd staff gan roi cyfle i bobl drafod syniadau mewn sefyllfa ddiogel. Byddwn yn dewis themâu ein sgyrsiau proffesiynol ar y cyd. Hefyd, rydym wedi datblygu triadau addysgu ymysg staff addysgu, gan roi amser a chyfleoedd i athrawon fyfyrio ar eu haddysgu eu hunain trwy arsylwi ar y cyd gan neilltuo amser i rannu ymarfer da a datblygu trafodaethau proffesiynol. Mae’r staff yn elwa ar sesiynau hyfforddi a mentora ffurfiol ac anffurfiol ac mae ganddynt gyfleoedd i ddysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd.

Ysgol y Dderi Staff

Rydym yn manteisio ar bob cyfle i gydweithio o fewn ein Sir, gan gynnwys trwy rwydweithiau ANG, ADY, Cymhwysedd Digidol, Meysydd Dysgu a Phrofiad, Cadwyn – Cymraeg Llafar ac asiantaethau fel Coleg Llambed a Choleg Ceredigion. Mae’n bwysig iawn edrych y tu hwnt i ffiniau’r ysgol, sy’n rhoi cyfle i ni ddatblygu yn broffesiynol gydag ystod ehangach o bobl sy’n arbenigo yn yr un meysydd neu sydd â diddordeb ynddynt.

Mae yna gyfleoedd cenedlaethol ar gyfer datblygiad proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol trwy rwydweithio mewn cynadleddau fel NAHT, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a rhwydweithiau TEAMS ar Hwb. Mae gweithio ar lefel ehangach yn rhoi cyfle i ni rannu syniadau a chlywed safbwyntiau gwahanol, gan sicrhau bod gennym ddealltwriaeth glir o’r darlun cenedlaethol.

Yn rhyngwladol, mae gwaith Erasmus yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithredu â gwledydd ledled Ewrop. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag ysgolion yn Norwy, Denmarc, Latfia, yr Eidal a Slofenia, gan roi cyfle i staff a disgyblion rannu syniadau a dysgu gyda’i gilydd. Mae dysgu am systemau addysg ledled Ewrop yn gyfle gwych i fyfyrio ar system Cymru ac ehangu ein gorwelion ymhellach.

Effaith yr holl gyfleoedd hyn ar gyfer cydweithio ar lefel ysgol, sir, cenedlaethol a rhyngwladol yw ehangu gorwelion ein staff trwy ddarparu cyfleoedd i sgwrsio’n broffesiynol gydag ystod eang o athrawon ac asiantaethau allanol. Mae hyn yn datblygu ein dealltwriaeth bresennol ac yn hyrwyddo syniadau newydd a blaengar. Mae’r gweithgarwch hwn yn arwain at ddatblygiad proffesiynol rhagorol, ac mae’n cael effaith uniongyrchol ar brofiadau cyffrous ein disgyblion yn yr ystafell ddosbarth, gan wella safonau cyffredinol o ganlyniad.

Pob Astudiaethau Achos