Skip to main content
English | Cymraeg
Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa

LPL GreenFfederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa

Wedi’i wreiddio mewn gwella proffesiynol a gwella ysgolion

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa yn cynnwys dwy ysgol yng Nghwmbrân, wedi’u lleoli o fewn milltir i’w gilydd yn Nhorfaen. Mae Coed Efa yn ysgol fynediad dau ddosbarth sydd â 450 o ddisgyblion, ac mae 30% yn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae gan Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim 270 o ddisgyblion, ac mae 49% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Sefydlwyd y ffederasiwn ym mis Medi 2016 gan arwain at gyfuno’r cyrff llywodraethu a’r timau arweinyddiaeth perthnasol. Cyflogir yr holl staff ar sail contract wedi’i ffedereiddio, sy’n golygu bod y staff yn gallu symud rhwng safleoedd. Yn ogystal, mae gwaith CPA a dysgu proffesiynol yn cael ei wneud fel ffederasiwn.

Mae gofyn y cwestiwn ‘pam’ yn ganolog i bopeth yn ein ffederasiwn. Credwn, ym mhopeth a wnawn:

  • Rydym yn datblygu dysgwyr ffyniannus, llwyddiannus
  • Rydym yn arwain ein pobl at ragoriaeth
  • Rydym yn newid ein cymuned a’n gwlad er gwell
Dull a ddilynwyd

‘The very idea of “effective” teacher professional learning can be elusive, even within an industry that has learning at its core’ (Dunn a Hattie, 2022, t.3). Mae’r angen i’r gweithiwr addysg proffesiynol fabwysiadu rôl athro a dysgwr ar yr un pryd yn fwy cyffredin nag erioed o’r blaen.  Ac eto, rhaid i arweinwyr ysgolion yng Nghymru sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau unigolion ac ysgolion a gofynion cenedlaethol sy’n newid (Llywodraeth Cymru, 2020, Cordingley et al., 2020).

Yn ôl yr OECD: ‘Effective teaching is at the heart of a successful education system… supporting teachers’ professional learning from the beginning to the end of their career is critical to fostering high-quality teaching’ (OECD, 2021, t.4). Rhaid i ddatblygiad proffesiynol adlewyrchu cyflymder newid byd-eang; oherwydd ansicrwydd byd sy’n esblygu’n gyflym, mae’n rhaid i bobl barhau i ddysgu gydol eu hoes (Harrari, 2016).

Mae Daly, Milton a Langdon (2020) yn nodi bod arweinyddiaeth weithredol mewn ysgol yn rhagflaenydd allweddol ar gyfer dysgu proffesiynol effeithiol. O ganlyniad, mae angen arweinwyr sy’n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant dysgu yn yr ysgol ac sy’n dysgu gyda’r athrawon. Mae Sinek (2009) yn nodi ei bod yn bwysig i’r arweinydd greu amgylchedd lle mae syniadau gwych yn gallu datblygu. Mae datblygu’r diwylliant a’r amgylchedd hwn yn cymryd amser – amser sydd ddim ar gael yn aml ym marn y proffesiwn cyfunol (Johnson, 2019).

Datblygiad Personol:

Coed Eva Primary CPD

Mae datblygiad personol yr holl staff yn hanfodol i lwyddiant y Ffederasiwn. Fel y nodir yn y Cwricwlwm i Gymru (Hwb, 2020), ‘dylai’r pedwar diben fod yn ddyhead ac yn nod terfynol ar gyfer y cwricwlwm a gynllunir gan ysgolion.’ Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad cwblhau addysg ffurfiol yw’r pwynt terfyn ar gyfer y continwwm dysgu hwn; rydym yn hyrwyddo diwylliant dysgu gydol oes.

Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn sylweddoli ei bod yn hanfodol i ymarferwyr ac arweinwyr ddatblygu hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn ohonynt eu hunain; ni allwn newid rhywbeth os nad ydym yn sylwi arno (Schwartz, Gomes a McCarthy, 2016). Mae’r perfformwyr gorau yn arsylwi arnynt eu hunain yn fanwl… yna mae’n ymwneud â dangos ymrwymiad i wneud beth sydd angen ei wneud i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod (Stein, 2019, t.4).

Mae staff wedi creu proffil insights Discovery, sydd â’r nod o ddarparu trosolwg o gryfderau a meysydd i’w datblygu, gan gynnig ffocws ar gyfer trawsnewid. Yn ogystal, mae’r mewnwelediadau hyn wedi’u rhannu ymysg timau gan wella’r broses o ddeall sut i gydweithio’n effeithiol, yn unol â dewis personol. Mae hyn yn seiliedig ar waith Thomas Erikson (2019) a’i waith ymchwil i fathau o ymddygiad pobl.

Arweiniodd y deilliannau at lawer mwy na datgelu dewisiadau gweithio syml. Mae wedi cynnig platfform i drafod, herio ac egluro gwerthoedd personol a phroffesiynol cyffredin rhwng staff. Yn ôl Brown (2018), os ydym yn adnabod gwerthoedd ein gilydd, rydym yn adnabod ein gilydd. Os nad ydym, dydyn ni ddim yn adnabod ein gilydd. ‘Mae rhannu gwerthoedd yn ffordd bwysig iawn o feithrin ymddiriedaeth a chysylltiad ar gyfer timau’ (t.208). Mae hyn wedi bod yn amlwg wrth sylwi ar y broses o ddatblygu a chynyddu cysylltiadau, empathi a chydlyniant yn y Ffederasiwn. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at ddwy fenter allweddol arall (Dydd Gwener y Ffederasiwn a Chyfoethogi ac Ymholi), sy’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith hwn ac yn helpu i’w ddatblygu.

Hyfforddi a Mentora:

Bob hanner tymor, neilltuir amser ar gyfer hyfforddiant a mentora, gan ddatblygu pob cydweithiwr i fod yn hyfforddwr. Yn yr un modd, mae gan bob aelod o staff hyfforddwr/mentor yn y Ffederasiwn, ac maen nhw’n cyfarfod i osod nodau, trafod anawsterau ac olrhain cynnydd. Nodau proffesiynol a phersonol yw’r rhain, ac mae’r empathi, y gefnogaeth a’r cydweithio sydd wedi deillio o’r rhaglen hon wedi arwain at fanteision pendant i les a chydlyniant staff. Fel y dywed Syr John Whitmore, mae’r broses hyfforddi a mentora hon wedi datgloi potensial pobl i fanteisio’n llawn ar eu perfformiad eu hunain (2017, t.13).

Mae pawb yn arweinydd:

Mae pawb yn arweinydd yn ein Ffederasiwn. Rydym yn ceisio creu diwylliant cefnogol a chydweithredol, gan ddarparu’r diogelwch i ganiatáu arloesi heb boeni am fethu neu wneud camgymeriadau. Mae croesawu arweinyddiaeth fel dylanwad, heb gysylltiad â hierarchaeth pŵer, yn golygu bod mentrau’n gallu ffynnu o bob rhan o’r strwythur staffio. ‘A brave leader is someone who says, “I see you. I hear you. I don’t have all the answers, but I’m going to keep listening and asking questions”’ (Brown, 2018, t.195). Mae’r diwylliant rydym wedi’i greu yn caniatáu lle a chefnogaeth i’r arweinwyr hyn gamu ymlaen.

Amser:

Mae amser yn hanfodol er mwyn cynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r arferion hyn. Fel arweinwyr, rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ein pobl a chanfod cydbwysedd rhwng anghenion dysgu proffesiynol unigolion a’r ysgol gyfan. Mae angen i arweinwyr weld y darlun ehangach, y weledigaeth, a chydnabod effaith buddsoddi amser, arian ac adnoddau mewn datblygiad strategol hirdymor.

Yn unol â hynny, yn ogystal ag amser ‘DPP’, hyfforddiant staff a diwrnodau HMS traddodiadol, rydym wedi creu amser a lle i sicrhau rhagor o ddatblygiad proffesiynol a dysgu trwy’r dulliau canlynol:

Cyfoethogi ac Ymholi:

Coed Eva Enrichment & Enquiry

Bob prynhawn Mercher ar sail gylchdro, rhoddir amser i ymarferwyr ymgymryd ag ymholiad proffesiynol hunangyfeiriedig. Mae hyn yn darparu amser gwarchodedig i gydweithwyr arsylwi, ymweld â lleoliadau eraill, cymryd rhan mewn deialogau proffesiynol, gwneud gwaith ymchwil a choladu canfyddiadau. Mae defnyddio’r dull Sbiralau Ymholi (Kaser a Halbert, 2017) yn darparu amlinelliad bras er mwyn sgaffaldio’r broses ymholi, gan roi cyfle i ymarferwyr wneud gwaith manylach i ddatblygu ymholiad sy’n berthnasol iddynt. Tra bod y gweithgaredd hwn yn cael ei gyflawni, mae aelodau eraill o’r Ffederasiwn yn arwain y plant mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cyfoethogi gan gynnwys chwaraeon, podledu, coginio a garddio.

Dydd Gwener y Ffederasiwn:

Mae arsylwi’n elfen ganolog o’r broses o ddatblygu athrawon effeithiol (Timperley, 2011), ond yn aml mae cyfleoedd i arsylwi yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg amser. Er mwyn creu’r amser hwn, mae ein Penaethiaid Gweithredol a Chyswllt yn cynllunio ac yn cyflwyno gwersi ledled y Ffederasiwn ar fore Gwener. Mae’r manteision yn ddeublyg; mae uwch arweinwyr yn meithrin perthynas agosach â dysgwyr ac yn cynnal eu cysylltiad ag addysgu, tra bod amser yn cael ei greu i ymarferwyr arsylwi ledled y Ffederasiwn. Mae’r arsylwadau hyn yn cael eu harwain gan flaenoriaethau ysgol gyfan, ac mae’r canfyddiadau a’r adborth yn cael eu defnyddio wedyn i werthuso cynnydd ac amlygu blaenoriaethau yn y dyfodol.

Fel Ffederasiwn, rydym yn cydnabod nad yw newid yn deillio o brosiect unigol ac na fydd un newid yn dilyn y llall yn gyflym. I gael effaith ystyrlon, mae newid yn cymryd amser.

Fel y nodwyd yn gynharach, mae Brown (2018) yn amlygu pwysigrwydd arweinwyr yn gwrando ac yn gofyn cwestiynau. Mae sgyrsiau a meithrin ymddiriedaeth a chysylltiadau yn hanfodol. Mae cydweithwyr wedi ategu bod y rhaglen hyfforddi a mentora, ac amser i gynnal sgyrsiau, wedi bod yn ganolog i’r broses hon. Mae neilltuo amser i gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd, siarad am werthoedd ac ymddiriedaeth wedi helpu i ddatblygu cysylltiadau ar lefel ehangach.

Mae ymarferwyr yn myfyrio’n ffurfiol ar eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol eu hunain oddi mewn i’n cylch rheoli perfformiad diwygiedig (sydd wedi’i ailenwi’n ‘Gwerthfawrogi Perfformiad Pwysig’), o dan arweiniad unigolyn penodol. Gwneir hyn mewn ffordd fesuradwy ac ansoddol er mwyn nodi safbwynt unigolion a grwpiau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at ein dysgu proffesiynol.

Mae’r arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (HWB, 2021) yn dangos tuedd gadarnhaol o ragor o gyfranogiad mewn dysgu proffesiynol, ac yn yr un modd, mae ein harolygon Ffederasiwn personol ein hunain a’n gwaith casglu adborth yn adlewyrchu’r lefelau uwch o ymgysylltu â dysgu proffesiynol (gan gynnwys astudio hunangyfeiriedig y tu allan i’n horiau ysgol).

Mae cydweithwyr yn darparu adborth ar sesiynau hyfforddi staff, sydd nid yn unig yn datblygu ein rhaglen hyfforddiant personol a phroffesiynol, ond hefyd yr unigolyn/grŵp o bobl sy’n darparu’r hyfforddiant.

Cysyniad sy’n cael ei dderbyn yn eang yw’r ffaith y bydd effeithiolrwydd grŵp o unigolion yn llawer mwy nag allbwn un person (Harris, 2008). Fodd bynnag, mae creu’r diwylliant cywir i ganiatáu hyn yn fwy heriol.

Yn y Ffederasiwn, rydym wedi myfyrio’n fanwl er mwyn datgelu’r rhwystrau i ddysgu proffesiynol effeithiol, a sut i’w lliniaru. Mae pawb yn y Ffederasiwn wedi gorfod gweithio’n galed iawn i sicrhau newid. Mae Gladwell (2000) yn cyfeirio at y syniad o ‘bwynt tyngedfennol’, lle mae cyflawni ‘màs critigol’ yn arwain at newid radical. Trwy rymuso ein staff trwy geisio eu deall fel unigolion, eu paru â mentoriaid o anian debyg a defnyddio’r holl staff i greu amser, rydym wedi gallu dechrau symud ymlaen tuag at bwynt tyngedfennol: pwynt lle mae’r holl staff wedi ymrwymo i symud ymlaen ac yn cael eu galluogi i wneud hynny; drostynt eu hunain, a thros y sefydliad a’n dysgwyr.

Cyfeiriadau:
  • Brown, B. 2018. Dare to Lead. Llundain, Penguin Random House.
  • Cordingley, P., Higgins, S., Greany, T., Crisp, B., Araviaki, E., Coe, R. a Johns, P. (2020) Developing great leadership of CPDL. [Cyrchwyd 3 Ionawr 2022].
  • C., Milton, E. a Langdon, F. (2020). How do ecological perspectives help understand schools as sites for teacher learning?, Professional Development in Education, 46(4), tt. 652-663.
  • Dunn, R., a Hattie, J. 2022. Developing Teaching Expertise. Thousand Oaks (CA), Corwin Press.
  • Erikson, T. 2019. Surrounded by Idiots. Penguin Random House.
  • Gladwell, M. 2000. The Tipping Point: How Little Things Can Make a Big Difference. Little Brown Publishers.
  • Harrari, Y. N. 2016. Homo Deus. Llundain, Penguin Random House.
  • Harris, A. (2008). Distributed School Leadership: Developing Tomorrow’s Leaders. Abingdon: Routledge.
  • HWB 2020. Datblygu gweledigaeth ar gyfer dylunio cwricwlwm. [Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2021].
  • HWB 2021. Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. [Accessed 4th January 2022].
  • Johnson, S. 2019. Where Teachers Thrive – Organizing Schools for Success. Harvard Education Press.
  • Kaser, L a Halbert, J. 2017. The Spiral Playbook: Leading with an inquiring mindset in school systems and school. C21 Canada.
  • Sinek, S.. 2009. Start With Why: How Great Leaders Inspire Everyone to Take Action. Llundain, Penguin Random House.
  • Stein, J.R.A. 2019. Raise Your Game. Efrog Newydd, Hachette Book Group.
  • Timperley, H. 2011. Realising the Power of Professional Learning. Open University Press.
  • The Colour Works. 2021. The Insights Discovery Profile. [Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2021].
  • Llywodraeth Cymru. 2020. Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. [Cyrchwyd 4 Ionawr 2022].
  • Whitmore, J., 2017. Coaching for Performance Fifth Edition. Mobius.
Pob Astudiaethau Achos