Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Maesyrhandir

LPL GreenYsgol Gynradd Maesyrhandir

Yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr gan ystyried eu lles

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gynradd Maesyrhandir yn y Drenewydd, Powys. Mae ychydig dros 100 o ddysgwyr ar y gofrestr. Arwyddair yr ysgol yw “Mae Pawb yn Rhywun”, sy’n ymgorffori agwedd yr ysgol at brofiad addysgol pob dysgwr, pob aelod o staff a’r gymuned. Lleolir yr ysgol mewn ardal o amddifadedd, ac mae 54% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 54% anghenion dysgu ychwanegol.

 

Dull gweithredu

Dydy addysgu yn Ysgol Maesyrhandir ddim yn waith hawdd, ond mae’n werth chweil. Oherwydd anghenion ein dysgwyr, yn aml iawn rydym wedi blino’n lân yn emosiynol ac yn gorfforol erbyn diwedd y diwrnod gwaith. Rhaid i unrhyw ddysgu proffesiynol fod yn berthnasol, yn werth chweil a chael effaith gadarnhaol ar ein haddysgu a’n dysgu.

Rydym yn dîm cymharol fach o 10 athro (8 CALl) a 15 cynorthwyydd cymorth dysgu, a dim ond dau athro sy’n aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Dros y saith mlynedd diwethaf rydym wedi newid ein dull dysgu proffesiynol er mwyn mabwysiadu dull ysgol gyfan sy’n cynnwys elfen o gydweithio cadarn rhwng aelodau staff.

Ein cam cyntaf tuag at hyn oedd cwblhau’r Rhaglen Dysgu Gweledol (John Hattie) dros gyfnod o 18 mis, a oedd yn ymestyn dros dair blynedd academaidd, gan ddechrau yn 2015. Roedd y dysgu proffesiynol hwn yn gyfle i staff roi cynnig ar weithgareddau ymchwil gyda’u dosbarthiadau, mesur yr effaith a mireinio strategaethau. Er mai’r athrawon a oedd yn mynychu’r hyfforddiant, rhannwyd y prosiectau ymarfer ac ymchwil gyda staff cymorth dosbarth fel y gallent symud ymlaen gyda ni. Fel rhan o’r rhaglen hon, darparwyd hyfforddiant mentor ar gyfer dau athro, gan roi cyfle iddynt wneud cyfraniad allweddol at gefnogi cydweithwyr. Yn dilyn hyn, mae mwy o athrawon wedi derbyn hyfforddiant mewn hyfforddi a mentora trwy’r rhaglen OLEVI.

O’r adeg hon ymlaen, roedd pawb yn yr ysgol yn gwybod bod angen i ni barhau â’r dull cydweithredol hwn ar lefel ysgol gyfan fel model ar gyfer ein dysgu proffesiynol, er mwyn rhoi cymorth i aelodau staff a sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Rydym wedi ailstrwythuro ein dulliau rheoli perfformiad er mwyn pennu un targed yn unig ar gyfer athrawon yn hytrach na’r model tri tharged a ddefnyddiwyd gennym gynt. Cynhelir cyfarfodydd rheoli perfformiad gyda’r pennaeth a dau athro, sy’n darparu cymorth i’w gilydd wedyn er mwyn gallu mentora ei gilydd. Mae amser yn cael ei neilltuo bob hanner tymor i roi cyfle i’r parau gyfarfod, a chynhelir cyfarfodydd adolygu cynnydd bob tymor. Mae adborth gan staff yn dangos eu bod yn ffafrio’r dull gweithredu hwn, a bod y broses o bennu un targed yn unig yn eu helpu i ganolbwyntio’n fanylach a thrafod syniadau. Yn aml, bydd staff yn trefnu ymweliadau ar y cyd ag ysgolion eraill i gasglu syniadau a gwybodaeth, yn ogystal â rhannu ffynonellau ymchwil.

Mae goruchwyliaeth ar gyfer staff cymorth wedi bod yn gam cadarnhaol arall tuag at ddatblygu dysgu proffesiynol gyda’r grŵp hwn, yn ogystal â chefnogi eu lles. Cynhelir cyfarfodydd goruchwylio bob tymor rhwng y pennaeth a staff cymorth unigol, ac mae awyrgylch y cyfarfodydd yn hamddenol ac yn gefnogol. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi bod yn gyfle i staff siarad am gamu ymlaen yn eu gyrfa, a sut mae’r ysgol yn gallu eu helpu i ddatblygu eu dysgu a darparu cymorth emosiynol iddynt.

Ers dechrau’r dull gweithredu hwn, mae dau gynorthwyydd cymorth dysgu wedi hyfforddi gyda Nurture UK, mae un wedi cael ei ariannu i ddilyn cwrs cwnsela, ac mae un wedi dechrau’r cwrs Ymarferwyr Thrive. Mae dau wedi mynegi diddordeb mewn datblygu eu sgiliau Cymraeg ac rydym yn gweithio gyda chynghorydd Cymraeg yr Awdurdod Lleol i sicrhau’r hyfforddiant mwyaf priodol.

Fel pob ysgol arall, rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar ein camau tuag at y Cwricwlwm Newydd. Rydym yn parhau i ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn fel ysgol gyfan ac yn cymryd pob cam gyda’n gilydd. Rydym wedi archwilio ein dealltwriaeth o’r egwyddorion addysgeg, ac rydym wedi dechrau troi ein sylw at yr elfennau y mae staff yn cytuno y dylem ganolbwyntio arnynt. Mae staff sy’n fwy hyderus mewn meysydd penodol yn cael eu hannog i arwain yr agweddau hyn, waeth ble maen nhw wedi cyrraedd yn eu gyrfa addysgu.

Mae gan ein cyfarfodydd staff agenda glir, ond maent yn caniatáu i staff drafod, heb farnu, bryderon a rhwystrau sy’n eu hwynebu. Diolch i’r cyfle hwn i fyfyrio, bu cyfle i ni addasu ein dysgu proffesiynol i raddau mwy, gan fynd â ni i gyfeiriadau na fyddem wedi’u hystyried fel arall, ac yn sicrhau bod unrhyw ddysgu wedi’i deilwra i anghenion y staff a’r ysgol.

Dangosodd yr arolwg diweddaraf o les staff fod 85.5% o’r staff yn teimlo bod gweithio yn yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a’u lles, ac mae athrawon yn gwneud sylwadau cadarnhaol am natur gefnogol a chydweithredol ein dysgu proffesiynol.

Mae’r broses o neilltuo amser o ansawdd ar gyfer dysgu proffesiynol a chefnogaeth gan gymheiriaid, ac annog staff i roi cynnig ar ddulliau gweithio newydd, a nodwyd trwy waith ymchwil, wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad pob aelod o staff.

Pob Astudiaethau Achos