Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin

LPL GreenYsgol Gyfun Dŵr-y-Felin

Wedi’i adeiladu ar farn feirniadol o ymchwil, ymholiad proffesiynol ac arbenigedd allanol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg, cyfrwng Saesneg, i ddisgyblion 11-16 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin. Mae ganddi 1,131 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r disgyblion o ardal sy’n cynnwys Castell-nedd a’r cyffiniau.

 

Dull a ddilynwyd

Mae gwaith yr ysgol drwy’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) a’r defnydd o fethodoleg Spiral of Inquiry (Kaser &Halbert, 2017) wedi sbarduno diwylliant dysgu proffesiynol yr ysgol. Un o’r prif flaenoriaethau wrth symud yr ysgol yn ei blaen yw ymwreiddio ymchwil weithredu ar draws yr ysgol gan ddefnyddio tystiolaeth i lywio cynllunio ac ymarfer.

Ers 2018, mae’r ysgol wedi cymryd rhan weithredol yn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) sydd wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau i’r Uwch Dîm Arwain (SLT) a’r Arweinydd Ymholi i fanteisio ar ymchwil weithredu i lywio’r dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol. O’r Archwiliad Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (SLO) yn 2018, nodwyd bod datblygu ymchwil weithredu yn faes i’w ddatblygu. I ddechrau, roedd y ffocws a’r ymyriadau ar gyfer y daith NPEP gyntaf yn fach ac yn gysylltiedig â blaenoriaeth yr ysgol o “ddiffyg hyder disgyblion mewn llafaredd”.  Arweiniodd canfyddiadau cadarnhaol yr ymholiad cychwynnol hwn at ail fersiwn o’r ymholiad ar lefel grŵp blwyddyn. Gellir priodoli llwyddiant yr ymchwil weithredu gychwynnol hon i greu rôl arweiniol ymchwil weithredu, y cymorth gan Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) drwy’r NPEP, dysgu proffesiynol drwy HMS a sicrhau bod yr ymholiadau ymchwil weithredu’n fach a bod ganddynt ffocws.

Ers mis Ebrill 2020, mae ymholi ac ymchwil weithredu wedi datblygu i lefel newydd ar draws yr ysgol. Mae wedi llywio arferion dysgu, addysg ac addysgeg wrth i’r ysgol symud o ddysgu wyneb yn wyneb i ddysgu o bell (anghydamserol) yn 2020 i Ddysgu Cyfunol (cydamserol ac anghydamserol) ym mis Ionawr 2021. Gweler gwefan Ymholi Proffesiynol a Dysgu Cyfunol Dŵr-y-Felin am fwy o fanylion.

Gydol proses hunanarfarnu’r ysgol yn 2020-21, nodwyd bod ymchwil weithredu drwy ymholi yn cael effaith fawr ar ddysgu proffesiynol i staff a dysgu ac addysgu.

Ym mis Mehefin 2021, mynychodd aelodau’r Uwch Dîm Arwain sesiwn Dysgu Proffesiynol gan Simon Breakspear ar “Agile Leadership and Self-improving Schools”.  Yn dilyn hyn, gwnaed y penderfyniad strategol i ddatblygu dull arloesol a fyddai’n rhaeadru ymchwil weithredu ac ymholi ar draws pob adran ac yn datblygu dealltwriaeth broffesiynol yr holl staff o ymchwil weithredu a sut y gall hynny lywio cynllunio ac ymarfer. Roedd y dull hwn yn cynnwys ymgorffori Model Ymchwil Weithredu Dŵr-y-Felin ym mhob cynllun datblygu adrannau ar gyfer 2021-22.

Ym mis Gorffennaf 2021, cynlluniwyd Model Ymchwil Weithredu Dŵr-y-Felin, templedi ymchwil weithredu, Banc Ymchwil Llenyddiaeth OneNote a dogfennau cynllun datblygu perthnasol gan yr Uwch Dîm Arwain a’r Arweinydd Ymchwil Weithredu.

Ym mis Medi 2021, darparwyd 2 ddiwrnod o HMS ar gyfer dysgu proffesiynol pellach i’r holl staff ar ymchwil weithredu a darparwyd amser i adrannau nodi targedau dysgu ac addysgu, nodi llenyddiaeth berthnasol, cynnal adolygiadau llenyddiaeth, rhannu a chydweithio a datblygu ymyriadau arloesol wedi’u llywio gan ganfyddiadau darllen ac ymchwil ehangach ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Tua diwedd Medi 2021, darparwyd diwrnod arall o HMS i adrannau ddatblygu eu hymchwil yn seiliedig ar ymholiad oed yn gysylltiedig ag ymholiadau proffesiynol eu hadran. Hefyd, darparwyd sesiynau galw heibio Dysgu Proffesiynol ar gynllunio ymholiad, moeseg ymholi a chynllunio cipio data.

Gydol tymor yr hydref mae Cynlluniau Gweithredu Adrannau wedi bod yn eitem ar yr agenda yng nghyfarfodydd cyswllt yr Uwch Dîm Arwain ac mae sesiynau galw heibio dysgu proffesiynol pellach ar gipio data, adolygiadau llenyddiaeth a chodio wedi’u darparu gan yr Arweinydd Ymchwil Weithredu i gefnogi Penaethiaid a staff adrannau. Bydd cam cyntaf y cylch ymholi yn dod i ben ym mis Chwefror 2022 gyda diwrnod HMS er mwyn hunanarfarnu’r canfyddiadau a’r broses ymholi. Bydd hyn yn llywio’r cylch nesaf a fydd yn para rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2022. Wrth weithredu proses ymholiadau ymchwil weithredu’r adran, cynhaliwyd ymholiad cyfan ehangach hefyd gan yr Uwch Dîm Arwain a’r Arweinydd Ymchwil Weithredu, i werthuso effaith dysgu proffesiynol gydol y flwyddyn. “I ba raddau y mae ymagwedd ysgol gyfan at ymholi proffesiynol wedi dylanwadu ar arloesedd dysgu ac addysgu” – bydd yr ymholiad ysgol gyfan hwn yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru drwy Gylch NPEP 2021-22.

Mae 55 o staff wedi bod yn rhan o ymholiad ysgol gyfan naill ai fel cyfranogwr neu mewn rôl arwain o ganlyniad i ddysgu proffesiynol. Ym mis Medi 2021, roedd 80% o’r staff yn ymwybodol eu bod wedi cymryd rhan mewn ymholiad ar ryw lefel ac roedd 32% o’r staff o’r farn eu bod wedi arwain ymholiad. Cyn y rhaglen dysgu proffesiynol ar ymholi roedd 72% o’r staff o’r farn bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn neu sylfaenol o’r broses ymholi. Ar ôl y rhaglen HMS gychwynnol roedd 39% o’r staff wedi gweld cynnydd yn lefel eu dealltwriaeth o ymholi oherwydd dysgu proffesiynol ac fe wnaethant roi marc o 4.75 allan o 5 i ddysgu proffesiynol ar draws yr holl gyfleoedd HMS.

Pob Astudiaethau Achos