Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr a llunwyr polisi o bob rhan o system addysg Cymru i greu’r amodau fel y gall arweinyddiaeth addysgol ffynnu.
Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol:
O’r sylfaen hon, bydd y sefydliad yn gwneud cyfraniad allweddol at system addysg y genedl erbyn 2026.
Trwy greu’r amodau sydd eu hangen i ysbrydoli arweinwyr, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cyfoethogi bywydau ein plant a’n pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog; yn unigolion iach a hyderus; cyfranwyr mentrus, creadigol; ac fel dinasyddion moesegol, gwybodus.
Mae holl staff yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, aelodau ei Bwrdd, secondeion a Chymdeithion hefyd wedi ymrwymo i weithio mewn ffyrdd sy’n gyson â saith egwyddor bywyd cyhoeddus, sef: