Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain Dysgu Proffesiynol Header

Mae dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol…

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

Mewn ysgolion, mae arweinwyr yn ceisio creu’r amodau i gydweithwyr weithio gyda’i gilydd ac i rannu syniadau’n agored. Y tu hwnt i’r ysgol, mae arweinwyr yn sicrhau cydweithio rhwng staff â diddordebau tebyg mewn sefydliadau eraill (Woods a Roberts, 2018).

Mae arweinwyr ysgolion yn edrych y tu hwnt i’w cymunedau ysgol eu hunain i feithrin rhwydweithiau gwybodaeth, ymchwil ac arbenigedd ymarferol (Brown a Poortman, 2017).

Mae arweinwyr yn ymwybodol o ffiniau a rhwystrau sy’n bodoli sy’n atal cydweithio agored. Gallant fod yn ffiniau adrannol (cyfyngu ar gydweithio rhwng adrannau) neu ffiniau sy’n ymwneud â chyfnodau (er enghraifft, atal cydweithio rhwng athrawon cynradd ac uwchradd) (Zeng a Lo, 2021).

Mae cydweithio yn rhan weladwy o ddysgu proffesiynol. Mae ymgysylltu’n gritigol â chymunedau dysgu proffesiynol -o fewn a thu hwnt i’r ysgol yn elfen bwerus o ddysgu proffesiynol (Estyn, 2017; OECD, 2018; Kools a Stoll 2016).

Mae arweinwyr yn creu’r amodau i ymarferwyr gydweithio a rhannu syniadau’n agored. Maent yn meithrin cysylltiadau cydweithredol, cefnogol a cholegol, yn eu hysgolion eu hunain, ac yn modelu a hyrwyddo deialog broffesiynol eu hunain (Cordingley et al 2015; Estyn 2017). Mae arweinwyr yn sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau a’r meddylfryd angenrheidiol i ddysgu drwy ddulliau cydweithredol (ASCL, 2018). Mae staff yn myfyrio gyda’i gilydd ar sut i wneud eu dysgu eu hunain yn fwy pwerus a dysgu sut i gydweithio fel tîm. Mae staff yn teimlo’n gyffyrddus yn gofyn am gyngor gan ei gilydd, ac mae ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd yn werthoedd craidd. Mae’r ysgol yn neilltuo amser ac adnoddau eraill ar gyfer cydweithio a chyd-ddysgu.

Mae arweinwyr yn sicrhau bod strwythurau’n cael eu cyflwyno ar gyfer trafod a chyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd. Mae staff newydd yn derbyn cymorth sefydlu a’r holl staff yn cael mynediad i gymorth hyfforddi a mentora. Mae hyfforddwyr a mentoriaid yn cael cyfleoedd i ddysgu gyda a chan ei gilydd hefyd (Lomax, J, 2020).

Jones, K. (2022)

Cyfres Mewnwelediad: Arwain Dysgu Proffesiynol (2022)

Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (2018)

Leadership of Professional Learning: Guidance Paper
Networks for Learning

Brown, C. and Poortman, CL (2017)

Networks for Learning: Effective Collaboration for Teacher, School and System Improvement London: Routledge

Cordingley, P. et al (2015)

'Developing great teaching: lessons from the international reviews into effective professional development.', Project Report. Teacher Development Trust, London

Estyn (2017)

Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion – crynodeb a phapur trafod Caerdydd: Estyn

Kools, M. and Stoll, L. (2017)

What Makes A School A Learning Organisation? Paris: OECD

Lomax, J. (2020)

Should mentoring be used as a professional development strategy for teachers at all stages of their career? A research working paper CollectivED Working Papers Issue 11 Leeds Beckett University Carnegie School of Education
Collaborative School Leadership. A critical guide

Woods, P. and Roberts, A. (2018)

Collaborative School Leadership. A critical guide. London: Sage

Zeng Y, Lo LN. (2021)

Leading as boundary crossing: How teacher leaders lead across a professional learning network in Shanghai China. Educational Management Administration & Leadership

Gwneud y Cysylltiad

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth

Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth ffurfiol) I Cydweithio (rolau arweinyddiaeth ffurfiol)

Taith Dysgu Proffesiynol

Dysgu proffesiynol staff

Cael Eich Ysbrydoli

Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.

Darllenwch yr astudiaethau achos

 

Ymunwch

Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni