Dechreuodd David Williams ei yrfa yn gweithio gyda phobl ifanc yn 17 oed, gan sefydlu clwb ieuenctid gwirfoddol sy’n dal i redeg 26 mlynedd yn ddiweddarach! Ymgymerodd David â’i radd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol tra’n gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd cyn symud i Dorfaen yn 2003 i rôl arwain. Mae David wedi bod yn ymwneud ag ystod o arferion gwaith ieuenctid mewn amrywiaeth o leoliadau o waith ieuenctid ar wahân ac ar y stryd ym Mhilgwenlli, prosiectau gwaith ieuenctid rhyngwladol yn Ne Affrica ochr yn ochr â nifer o glybiau ieuenctid ac ysgolion. Mae David wedi bod yn rheoli Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen ers 2016 ac mae ganddo brofiad cenedlaethol mewn meysydd strategol trwy gadeirio’r Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid ac mae’n aelod presennol o Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae David yn ymddiriedolwr ar ddau sefydliad elusennol cymunedol sy’n cefnogi grwpiau ymylol a heb gynrychiolaeth ddigonol i gael mynediad at wasanaethau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd addysgol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae David yn mwynhau gwylio chwaraeon, mynd am dro a threulio amser gyda theulu a ffrindiau yn gwylio chwaraeon!