English | Cymraeg

Tegwen Ellis

Prif Weithredwr

Tegwen Ellis yw Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Cyn hyn roedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrwydd Ansawdd gyda’r sefydliad.

Mae Tegwen wedi bod yn rhan o ddatblygiad yr Academi Arweinyddiaeth ers y cychwyn cyntaf, fel aelod o’r bwrdd cysgodol. Gan arwain y tîm a Chymdeithion yr Academi, mae Tegwen yn chwistrellu gweledigaeth a strategaeth strategol gref, gan greu sefydliad cynaliadwy sy’n cefnogi arweinwyr ar bob lefel ledled Cymru. Mae Tegwen yn mwynhau bod yn rhan o dîm cryf o staff, Cymdeithion yr Academi a secondion a hoffai weld yr Academi Arweinyddiaeth yn parhau i ddatblygu fel llais arweinyddiaeth, gan effeithio ar bob arweinydd a dod yn sefydliad hanfodol ar gyfer pob peth arweinyddiaeth yng Nghymru.

“Mae pobl wir yn edmygu, yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r Prif Weithredwr, fel arweinydd ac fel person. Mae pobl yn ei weld yn ysbrydoledig ac mae ganddyn nhw lawer o barch tuag ati.” Buddsoddwyr mewn Pobl, o’r adroddiad Rydym yn buddsoddi mewn lles (Mis Mehefin 2021)

Dechreuodd Tegwen ei gyrfa addysgu yn 1988 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi ymgymryd â rolau arweinyddiaeth amrywiol gan gynnwys ymgynghorydd rheoli perfformiad a chymedrolwr cenedlaethol ac asesydd cymheiriaid gydag Estyn. Yn 2015 sefydlodd a chadeiriodd Ffederasiwn Cyfrwng Cymraeg ysgolion yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, gan sicrhau bod dysgu proffesiynol a gweithio o ysgol-i-ysgol yn rhan annatod o’i athroniaeth. Roedd Tegwen yn bennaeth Ysgol Cynwyd Sant am bron i 20 mlynedd ac arweiniodd yr ysgol yn llwyddiannus drwy sawl arolygiad lle nodwyd bod ei harweinyddiaeth yn ‘flaengar ac arloesol’ ac yn sicrhau ‘bod ei gweledigaeth a’i hathroniaeth yn cael eu rhannu’n llwyddiannus iawn gyda’r holl randdeiliaid’.

Mae Tegwen yn briod i Dyfrig sy’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol gydag Estyn ac mae ganddynt efeilliaid. Mae Jacob yn Arweinydd y Gwneuthurwr Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae Efan yn athro blwyddyn 2 mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae gan Tegwen ddau gi hefyd, Gwenllian Medi, Labrador siocled 14 oed a Lleucu Morgannwg, labradoodle 7 mis oed. Yn ei hamser hamdden, mae Tegwen yn mwynhau carafanio, mynychu digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ac mae’n astudio ar gyfer ei doethuriaeth broffesiynol mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

@tegwen_ellis   

Tegwen Ellis

Ein tîm

Gweld y Cyfan
Meleri Light

Pennaeth y Gymraeg

Charlotte Thomas

Rheolwr Cyfathrebu

Richard Edwards

Pennaeth Datblygu Arweinyddiaeth