Mae Kirsty Payne wedi bod gyda’r Academi Arweinyddiaeth ers ei sefydlu yn 2018, gan ddod yn ail aelod o’r tîm a gyflogwyd. Mae’n gweithio ar draws y sefydliad gan reoli pob agwedd o’r swyddogaethau busnes a gweithredol yr Academi Arweinyddiaeth. Mae hi wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r sefydliad yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n perfformio’n dda, gan gyflawni pob agwedd ar ei gyfrifoldebau corfforaethol.
Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio a dysgu yn ystod y pandemig COVID-19 a hoffai Kirsty weld y sefydliad yn parhau i adeiladu ar eu harferion arloesol ac effeithlon. Mae’n angerddol am dyfu cyrhaeddiad a chylch gwaith yr Academi Arweinyddiaeth ac mai hi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater arweinyddiaeth ar draws y sector addysg yng Nghymru.
Mae Kirsty yn brofiadol iawn ac wedi rheoli busnes yn y sector preifat a’r trydydd sector. Yn ei rolau blaenorol mae wedi rheoli prosiectau ar raddfa fawr sy’n cyflawni mentrau prentisiaeth a datblygu sefydliadol uwch. Mae Kirsty yn angerddol am ddysgu gydol oes ac mae ganddi radd anrhydedd o’r radd flaenaf mewn Busnes a Rheolaeth o Brifysgol De Cymru, a gwblhaodd wrth weithio’n llawn amser.
Priododd Kirsty 10 diwrnod cyn cyfnod clo cenedlaethol cyntaf y DU ac mae bellach yn disgwyl ei babi cyntaf – sy’n her newydd! Mae ganddi randir mewn cymdeithas leol, lle mae’n gostwng yr oedran cyfartalog tua 35 mlynedd!