Skip to main content
English | Cymraeg

Geraint Roberts

Swyddog Gweithredol Marchnata a Chyfryngau Digidol

Ymunodd Geraint Roberts â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel Swyddog Gweithredol Marchnata a Chyfryngau Digidol ym mis Mehefin 2022. Ei rôl fel rhan o’r tîm cyfathrebu yw darparu ystod eang o weithgareddau marchnata a chyfathrebu ar draws llwyfannau digidol y sefydliad.

Graddiodd Geraint o Brifysgol Caer yn 2018 gyda gradd mewn Newyddiaduraeth Chwaraeon ac aeth ymlaen i fod yn Bennaeth Cyfryngau yng Nghlwb Pêl-droed Llandudno. Mae hefyd wedi gweithio yn Swydd Hertford fel newyddiadurwr newyddion lleol. Mae’n siaradwr Cymraeg ac yn frwd dros hyrwyddo’r iaith lle bynnag y bo modd.

Mae Geraint yn edrych ymlaen at helpu’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i ddod yn frand ac enw adnabyddus yng Nghymru ac mae’n awyddus i arweinwyr addysgol wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Mae Geraint yn wreiddiol o Landudno ond wedi symud i Gaerdydd yn ddiweddar. Yn ystod ei amser rhydd, mae’n mwynhau gwylio pêl-droed a chefnogi Manchester United a Chymru. Mae hefyd yn chwarae pêl-droed pum bob ochr ac yn ddiweddar mae wedi dechrau chwarae dartiau.

Twitter icon @GRobertsCymru

Geraint Roberts

Ein tîm

Gweld y Cyfan
Meleri Light

Pennaeth y Gymraeg

Charlotte Thomas

Rheolwr Cyfathrebu

Richard Edwards

Pennaeth Datblygu Arweinyddiaeth