Ymunodd Gareth â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel Swyddog Cymorth Busnes ym mis Medi 2022. Mae’n gweithio ar draws y sefydliad gan gefnogi’r Pennaeth Gweithrediadau wrth gynllunio a chyflawni prosiectau allweddol. Mae hefyd yn gyfrifol am gysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar ran yr uwch dîm a sefydlu perthnasoedd gwaith cryf.
Mae Gareth wedi gweithio mewn nifer o ddiwydiannau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys hamdden, lletygarwch, gwasanaethau ariannol, trafnidiaeth ac addysg. Cyn hynny bu Gareth yn gyflogedig gyda Chymwysterau Cymru ac yn fwyaf diweddar gyda Chomisiynydd y Gymraeg cyn cyrraedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Mae Gareth yn fabolgampwr brwd ac wedi chwarae rygbi ac wedi nofio’n gystadleuol o oedran ifanc, yn ddiweddar mae wedi dal y byg triathlon a newydd gwblhau Ironman Cymru. Pan nad yw’n nofio/beicio/rhedeg o amgylch De Cymru mae’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu, gwylio chwaraeon a theithio.