Skip to main content
English | Cymraeg

Noel Fitzgerald

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Pen Coch yn y Fflint yw Noel Fitzgerald. Mae Noel wedi bod yn dysgu ers 1994 ac mae ei rolau blaenorol yn cynnwys dirprwy bennaeth Ysgol Maes Hyfryd (2015-2019) a phennaeth cynorthwyol Ysgol Foxfield (2007-2014). Mae Noel wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau cenedlaethol fel y Prosiect Ymchwiliad Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) a’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Fel Cydymaith mae Noel yn edrych ymlaen at gynrychioli’r sector arbennig yng Nghymru, datblygu arweinyddiaeth greadigol ym myd addysg, a gweithio i gefnogi arweinwyr y dyfodol. Mae’n awyddus i weithio gyda chydweithwyr creadigol, blaengar sydd wedi ymrwymo i wella arweinyddiaeth ym myd addysg. Dyhead Noel yw i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gael ei chydnabod fel y sefydliad am arweinyddiaeth ym mhob agwedd o addysg yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio hyrwyddo gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar draws y sector ysgolion arbennig.”

Mae Noel yn mwynhau rhedeg, cerdded cŵn, gwylio Clwb Pêl-droed Everton ac astudio athroniaeth. Ar hyn o bryd mae’n cynilo ar gyfer Jet Sgi.

Twitter icon@YPC_SCouncil

www.Ysgolpencoch.org

Noel Fitzgerald

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Ffederasiwn y Cymdeithion

Geraldine Foley

Ffederasiwn y Cymdeithion

Margaret Davies

Ffederasiwn y Cymdeithion