Skip to main content
English | Cymraeg

Mair Hughes

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Penglais yn Aberystwyth yw Mair Hughes. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Pennaeth Cydymaith Academi Hampton (2012-2015), Pennaeth Academi Hampton, Ysgol Uwchradd Hampton yn ddiweddarach (2015-2017) a rolau amrywiol o Bennaeth Cerdd, Pennaeth Blwyddyn, Pennaeth Cynorthwyol i Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Merched Brentford (1999–2012).

Mae Mair hefyd wedi bod yn rhan o Ymddiriedolaeth Kunskapsskolan yn Hampton, gan weithio gyda Phenaethiaid, Prif Weithredwyr ac eraill ar draws ysgolion yn Lloegr a Sweden. Fel rhan o Kunskapsskolan, bu Mair yn gweithio ar ddatblygu a gweithredu model gwahanol o ddysgu, roedd cynhwysiant a dysgu seiliedig ar nodau wrth wraidd y model.

Dyheadau Mair ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw iddo fod y sefydliad canolog ar gyfer datblygu arweinyddiaeth addysgol ledled Cymru.

“Mae datblygiad proffesiynol arweinwyr ar bob lefel yn hanfodol i lwyddiant pobl ifanc yng Nghymru ac mae bod yn rhan o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, sy’n anelu at ysbrydoli arweinwyr i gyfoethogi bywydau eraill, yn fraint. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag arweinwyr addysgol a gweithwyr proffesiynol eraill i gyfrannu mewn rhyw ffordd at y daith.”

Mae Mair yn byw gyda’i theulu ar arfordir Gorllewin Cymru yn Llanon, gyda’i gŵr a’i dwy ferch. Mae hi’n mwynhau gwneud y gorau o’r arfordir trwy redeg ar hyd llwybr yr arfordir a badl-fyrddio pan fydd hi’n dywydd da. Mae’n hoffi darllen llawer o ffuglen yn ogystal â llyfrau ysbrydoledig am arweinyddiaeth.

Twitter icon@PenglaisSchool_

Facebook iconYsgolPenglaisSchool

Instagram icon@ysgolpenglais

Mair Hughes

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Ffederasiwn y Cymdeithion

Geraldine Foley

Ffederasiwn y Cymdeithion

Margaret Davies

Ffederasiwn y Cymdeithion