Skip to main content
English | Cymraeg

Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Gymraeg Castell-nedd yw Gayle Shenton, a chyn hynny roedd yn bennaeth yn Ysgol Llwynderw ac Ysgol Felindre yn Abertawe. Mae Gayle wedi bod yn arweinydd yn y sectorau cyfrwng Cymraeg a Saesneg ac ar hyn o bryd mae wedi’i secondio i Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot fel ‘Arweinydd Dysgu Proffesiynol’.

Drwy gydol ei gyrfa mae Gayle wedi ymgysylltu’n weithredol â dysgu proffesiynol ac mae’r dysgu hwn wedi datblygu ei angerdd o fewn addysg e.e. lles, llais y disgybl, addysgeg y cyfnod sylfaen, addysg Gymraeg ar draws sectorau ac yn arbennig arweinyddiaeth.

Mae Gayle wedi cael cyfleoedd i ymweld â Sweden, ymweliad a atgyfnerthodd ei hangerdd am gyfleoedd o safon i’r disgyblion ieuengaf a dysgu yn yr awyr agored. Ymwelodd hefyd â Zambia trwy brosiect partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a chanfod bod dyheadau a llawenydd y disgyblion a’r athrawon, mewn amgylchiadau mor heriol, yn ysbrydoledig.

“Dod yn Gydymaith yw un o uchafbwyntiau fy ngyrfa gan ei fod yn rhoi cyfle i mi weithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru, a dysgu ganddynt, wrth ymgysylltu â dysgu newydd a chefnogi newid.

Rwy’n gobeithio rhannu’r cyfleoedd a roddir i mi gyda chydweithwyr a gallu annog darpar arweinwyr ifanc ac athrawon i gymryd rhan weithredol mewn ymchwil a dysgu proffesiynol er mwyn iddynt allu datblygu’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen i sicrhau bod plant a disgyblion yng Nghymru yn cael y cyfleoedd gorau.”

Mae Gayle yn briod ac mae ganddi ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny, dau gi cath a fan gwersylla. Mae Gayle yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a ffrindiau ac mae’n hapusaf pan mae ar lan y môr.

Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig

Rebecca Turner

Ffederasiwn y Cymdeithion