Pennaeth Ysgol Gynradd Maesybryn ym Mhontypridd yw Simon Roberts. Mae ganddo brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn ac mae’n Gadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Rhondda Cynon Taf. Mae Simon hefyd yn rhanddeiliad ar y cymhwyster newydd Meistr mewn Addysg Genedlaethol, gan weithio gyda saith sefydliad addysg uwch ledled Cymru ac ymgynghori ar y modiwlau anghenion dysgu ychwanegol.
Fel Cydymaith, mae Simon wedi ymgymryd â hyfforddiant cymeradwyo, wedi hwyluso gweithdai arloesi, ac ar hyn o bryd mae’n cydweithio â’r Athro David Egan ar gomisiwn carfan 3. Mae Simon yn mwynhau bod yn rhan o gorff cenedlaethol sy’n ysbrydoli arweinwyr ac mae e eisiau cefnogi’r Academi Arweinyddiaeth fel sefydliad sy’n cefnogi arweinwyr addysgol ledled Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwblhau’r gwaith gyda’r Athro Egan a gweld hynny’n arwain at gynnydd mewn gwaith ymchwil mewn ysgolion. Yn fwy na dim, rwyf am barhau i weithio gydag arweinwyr o bob rhan o Gymru a datblygu’r berthynas gref a wnaed eisoes.”
Ganwyd Simon yn Zambia a bu’n byw yn Affrica am dair blynedd gyntaf ei fywyd. Ar ôl y brifysgol treuliodd chwe mis yn gweithio yn Guiana Ffrenig lle’r oedd ei fflat yn gyferbyn ag Ynys y Diafol. Mae ei Ffrangeg yn dal i fod yn oddefol ond wedi’i chyfyngu i wyliau yn Ffrainc bob blwyddyn. Mae Simon hefyd yn rhedwr brwd ac yn treulio llawer o benwythnosau yn dyfarnu ar gyfer Athletau Cymru.