Pennaeth Ysgol Gynradd Clase yn Abertawe yw Sharon Hope. Mae ganddi gyfoeth o brofiad o fentora a chefnogi darpar arweinwyr, penaethiaid sydd newydd eu penodi a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr sy’n cynnig cymorth o ysgol-i-ysgol. Mae Sharon hefyd yn gynrychiolydd ar y Bwrdd Strategol ADY a grwpiau Cyd-gam ADY yn Abertawe.
Yn ei rôl fel Cydymaith, mae Sharon wedi cyfrannu at gomisiwn carfan 3 ac wedi cymryd rhan mewn hyfforddi a dysgu proffesiynol. Mae’r cyfle i feithrin perthynas broffesiynol drwy rwydweithio ag arweinwyr rhagorol ledled Cymru wedi arwain at ddatblygu prosiectau yn ei hysgol ei hun ac wedi ei helpu i gefnogi datblygiad arweinwyr yn ei rhanbarth.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r cyfleoedd i ddatblygu fy arweinyddiaeth fy hun a chyfoethogi taith ddysgu arweinwyr eraill a darpar arweinwyr yng Nghymru.”
Mae Sharon wrth ei bodd yn garddio, a Monty Don yw ei harwr! Mae hi’n ferch o’r ddinas a lwyddodd i blannu bylbiau cennin Pedr wyneb i waered, ond bellach mae wedi dwli ar greu ffiniau llysieuol, tyfu llysiau, a mwynhau mynyddoedd hardd Cymru.