Pennaeth Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug yw Olwen Corben. Mae gan Olwen brofiad fel Asesydd CPCP ac Arolygydd Cymheiriaid Estyn.
Yn ei rôl fel Cydymaith, mae Olwen wedi cymryd rhan mewn prosiectau gan gynnwys y gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth a hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar. Daeth yn Gydymaith am gyfleoedd i ddysgu, cydweithio â phenaethiaid o bob cwr o Gymru a chael ei herio i feddwl yn wahanol. Ei dyheadau yw i’r Academi Arweinyddiaeth gael ei chydnabod ledled Cymru fel sefydliad o safon sy’n cefnogi arweinyddiaeth, cydweithredu ac ysgolion fel sefydliadau dysgu.
Mae Olwen wrth ei bodd yn chwarae pêl-rwyd ac wedi chwarae ar dri thîm – Hafod Johnstown, North East Eagles a’r Netcrackers! Mae’n byw mewn tröedigaeth ysgubor yng Nghorwen ac mae ganddi gath o’r enw Herman. Mae Olwen wrth ei bodd yn gwylio rygbi’r 6 gwlad!