Skip to main content
English | Cymraeg

Catrin Thomas

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Gynradd Aberaeron yw Catrin Thomas. Ar hyn o bryd mae Catrin ar secondiad i Gyngor Ceredigion fel Cydlynydd Cwricwlwm. Mae gan Catrin brofiad fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn, mae’n Gadeirydd Rhwydwaith Prifathrawon Canolbarth Ceredigion ac yn asesydd CPCP.

Yn ei rôl fel Cydymaith, mae Catrin wedi hwyluso amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gweithdai arloesi, sesiynau Pen-i-Ben a gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth. Mae hi hefyd yn cydweithio a Chymdeithion eraill yn garfan 3 ar eu comisiwn. Ymunodd Catrin a’r Cymdeithion i gysylltu ag arweinwyr o Gymru a thu hwnt.  

“Mae’n gyffrous cael y cyfle i gyfrannu at sgyrsiau ar lefel system.”

Mae Catrin yn ferch fferm ac yn fam i dri bachgen bywiog. Mae hi’n hapusaf wrth ymweld â’i hoff le, Llangrannog a gwneud y gorau o awyr y môr gyda’i ffrindiau a’i theulu.

Catrin Thomas

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig