Pennaeth Ysgol Gynradd Llanisien Fach yng Nghaerdydd yw Sarah Coombes. Mae’n arwain ysgol arloesol ac yn ganolfan ddysgu broffesiynol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De (CCD) ac mae’n eistedd ar fwrdd y pennaeth dirprwyol, gan gyfrannu at strategaeth a chyfeiriad system hunan-wella’r consortia. Mae Sarah hefyd wedi cyd-adeiladu rhaglenni fel rhan o’r model dysgu proffesiynol ac mae’n cyflwyno rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer CCD.
Yn ei rôl fel Cydymaith, mae Sarah wedi cynrychioli’r Academi Arweinyddiaeth mewn seminarau, cynadleddau ac yn ystod ymweliadau rhyngwladol ac wedi cyd-ysgrifennu’r comisiwn â charfan 2.
Mae Sarah yn angerddol am ddysgu proffesiynol, sy’n flaenoriaeth yn ei barn hi ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu staff yn broffesiynol. Mae gan Sarah arddull arweinyddiaeth gref ac mae ganddi hanes profedig o gefnogi ysgolion drwy deilwra rhaglenni cymorth pwrpasol i godi safonau a gwella capasiti arweinyddiaeth ar bob lefel.