Skip to main content
English | Cymraeg

Paul Keane

Ffederasiwn y Cymdeithion

Paul Keane yw pennaeth gweithredol Ffederasiwn Ysgolion Cymunedol Blenheim Road a Choed Eva yng Nghwmbrân.

Mae Paul yn rhan o’r ail garfan o Gymdeithion ac mae wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau gyda’r Academi Arweinyddiaeth. Mae wedi cyd-awduro adroddiad y comisiwn Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu’r weledigaeth o Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu? a hwyluso sesiynau dysgu proffesiynol ar gyfer uwch arweinwyr trwy’r gyfres weminar Datgloi Arweinyddiaeth.

Tyfodd Paul i fyny yn Llundain a gweithiodd fel cyfreithiwr yn y ddinas ar ôl cwblhau ei raddau. Dechreuodd ei yrfa ym myd addysg mewn ysgol gynradd gymunedol lewyrchus yng nghanol Llundain, lle gweithiodd ei ffordd i fyny o rôl cynorthwyydd addysgu i uwch arweinyddiaeth trwy’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Cyn dod yn bennaeth yn ei ysgolion presennol, roedd Paul yn bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown yng Nglynebwy. Mae Paul yn mwynhau’n fawr y fraint o arwain ei dîm o staff hynod ymroddedig ar eu taith i wella’r ysgol, gan osod yr ysgolion wrth galon y gymuned leol a rhoi disgyblion a theuluoedd yn gyntaf.

Paul Keane

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig