English | Cymraeg

Paul Keane

Cydymaith Alwmni

Pennaeth ffederasiwn Cymuned Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân yw Paul Keane. Mae Paul yn gynghorydd her i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) ac mae’n fentor i benaethiaid newydd eu penodi a phenaethiaid dros dro ar draws yr awdurdod lleol a’r GCA.

Mae Paul yn rhan o ail garfan Cymdeithion ac mae wedi bod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gyda’r Academi Arweinyddiaeth. Mae e wedi cyd-ysgrifennu’r comisiwn, Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu’r weledigaeth o Gymru o ddiwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg ffyniannus ac wedi hwyluso sesiynau dysgu proffesiynol i uwch arweinwyr drwy’r gyfres weminar Datgloi Arweinyddiaeth.

Magwyd Paul yn Llundain a gweithiodd fel cyfreithiwr yn y ddinas ar ôl cwblhau graddau lefel meistr yn Rhydychen a Chaergrawnt. Dechreuodd ei yrfa ym maes addysg mewn ysgol gynradd gymunedol ffyniannus yng nghanol Llundain, lle bu’n gweithio ei ffordd i fyny o rôl cynorthwyydd addysgu i uwch arweinwyr drwy’r rhaglen athrawon graddedig. Cyn dod yn bennaeth yn ei ysgolion presennol, Paul oedd pennaeth Ysgol Gynradd Willowtown yng Nglynebwy a chafodd y fraint o arwain ei dîm o athrawon ac uwch arweinwyr ymroddedig iawn ar daith gyflym i wella’r ysgol, gan roi’r ysgol wrth galon y gymuned leol.

Paul Keane

Cymdeithion Alwmni

Gweld y Cyfan
Trefor Jones

Cydymaith Alwmni

Tania Rickard

Cydymaith Alwmni

Sarah Coombes

Cydymaith Alwmni