Mae Jeremy Griffiths yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n gyfrifol am nifer o raglenni gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni fel y Llwybr Arweinyddiaeth Cenedlaethol Meistr mewn Addysg (Cymru) a Rhaglen Addysg Meistr yn Singapôr. Mae hefyd yn cyflwyno cyrsiau byr ar Arweinyddiaeth Gynaliadwy mewn Addysg. Yn fwyaf diweddar, mae Jeremy yn gweithio i drawsnewid y rhaglenni Meistr yn ddeunyddiau ar-lein trwy ddefnyddio technoleg fideo.
Dechreuodd Jeremy ddysgu am y tro cyntaf yn 1985 ar ôl graddio o Goleg Cyncoed, Caerdydd a bu’n gweithio yn y sector uwchradd am bron i chwe blynedd. Ar ôl trosglwyddo i addysg gynradd, daeth yn ddirprwy bennaeth dros dro yn gyflym cyn symud ymlaen i fod yn bennaeth. Yn ystod ei yrfa, mae Jeremy wedi gweithio fel Uwch Swyddog Addysg Arbennig a Chynhwysiant gyda Chyngor Sir Ddinbych ac aeth ymlaen i fod yn bennaeth ysgol gynradd fawr gydag ysgol anghenion arbennig gysylltiedig. Mae wedi bod yn ymwneud â llawer o brosiectau datblygiadol strategol gan gynnwys Ysgolion Arloesi, Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, Safonau Arweinyddiaeth, Ymchwil Addysg ac mae wedi gweithio gyda’r OECD. Ar hyn o bryd mae Jeremy yn aelod o grŵp datblygu CPCP, yn paratoi rhaglen y dyfodol.
Mae Jeremy yn aelod o’r garfan gyntaf o Gymdeithion ac mae wedi bod yn rhan o ddatblygiad yr Academi Arweinyddiaeth ers y dechrau. Mae wedi cynrychioli’r Academi Arweinyddiaeth mewn digwyddiadau rhyngwladol fel cynhadledd y Gyngres Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion (ICSEI) ym Moroco ac Ontario Institute for Studies in Education (OISE) yn Toronto. Cyfrannodd hefyd at Our Call to Action, gyda Cymdeithion yng ngharfan 1. Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi rhoi llawer o gyfleoedd i Jeremy, ac mae’n aelod gweithgar o Ffederasiwn yr Academi Arweinyddiaeth sydd newydd ei ffurfio.
“Pan fyddwch chi’n mwynhau’r hyn rydych chi’n ei wneud yn broffesiynol yn fawr nid yw’n ymddangos fel gwaith.”
Er mwyn ymlacio, mae Jeremy’n nofio’n gystadleuol mewn digwyddiadau dŵr agored a dan do ac mae’n mwynhau dysgu sut y gall technoleg wella ei gynhyrchiant a’i effeithiolrwydd wrth weithio. Mae ci Golden Retriever yn sicrhau bod Jeremy yn cael digon o awyr iach yn rheolaidd.