Pennaeth Gweithredol Ysgolion Cynradd Cadoxton a Oak Field yn y Barri yw Janet Hayward OBE. Cyn hynny bu’n bennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri ac yn Gadeirydd y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol rhwng 2012 a 2017.
Mae Janet wedi bod yn gweithio a’r nifer o brosiectau ar draws y sector addysg gan gynnwys sefydlu Hwb. Mae’n arweinydd ysgol arloesol ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FCD), Iechyd a Lles ac mae’n feirniad ar gyfer y gwobrau addysgu blynyddol. Ar hyn o bryd, mae Janet yn arwain ar y Brosiect Bocs Mawr Fwyd sy’n gosod siopau “talu beth y teimlwch” ar draws wyth ysgol yng Nghymru.
Yn ei rôl fel Cydymaith mae Janet wedi mwynhau gweithio gyda chydweithwyr a chreu rhwydweithiau newydd ledled Cymru sydd wedi gwella ei dealltwriaeth o ehangder a dyfnder arfer cryf mewn gwahanol gyd-destunau. Cyd-ysgrifennodd y comisiwn, Ein Galwad i Weithredu, a chyd-ddatblygodd y Gweithdai Arloesi ar-lein gyda’r Athro Andy Penaluna a thîm yr Academi Arweinyddiaeth.
Mae Janet yn dod o Bontlliw, ger Abertawe, ac mae’n ferch i ddau athro. Mae ganddi ddau o blant aeddfed, mae ei gŵr yn athro Mathemateg ac mae ganddi gi selsig maldodus o’r enw Oscar. Mae Janet yn mwynhau nofelau di-werth, heulwen a theithiau cerdded ar y traeth, a chyfuno’r tri gyda choctel yw ei breuddwyd!