Skip to main content
English | Cymraeg

Owain Gethin Davies

Cydymaith

Mae Owain Gethin Davies yn Bennaeth Ysgol Dyffryn Conwy sy’n ysgol uwchradd o dros 650 o ddisgyblion yn nhref Llanrwst, Gogledd Cymru. Mae Owain Gethin wedi bod yn dysgu ers 2002 ac mae ganddo brofiad helaeth fel athro Cerdd. Roedd Owain Gethin yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Creuddyn o 2016 cyn dod yn Brifathro yn 2020 yn Ysgol Dyffryn Conwy. 

Roedd Ysgol Dyffryn Conwy yn ffodus i fod yn rhan o’r rhaglen arweiniol ysgolion Arloesi gychwynnol pan lansiwyd y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd yn ôl yn 2015. Mae Owain Gethin wedi gweithio’n helaeth ar lefel leol a chenedlaethol i fesur y gofynion dysgu proffesiynol sydd eu hangen i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm. Mae hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar y prosiect Trafod Addysgeg a chyda’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella, gweithgor CPCP a’r grŵp llywio ar gyfer prosiect effeithiolrwydd y dysgwyr. 

Fel Cydymaith, mae Owain Gethin yn edrych ymlaen at gydweithio gydag arweinwyr o bob rhan o Gymru i feithrin perthynas gref rhwng ysgolion ac ysgolion gan ganolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth systemau. 

Yn ogystal â’i swyddogaethau pennaeth a chydymaith, Owain Gethin hefyd yw Cadeirydd bwrdd Adnodd ac mae’n awyddus i gefnogi datblygiad adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru i ddarparu profiadau cyfoethogi pellach i bobl ifanc Cymru. 

Owain Gethin hefyd yw Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Colwyn. Mae’n mwynhau teithio a chadw’n heini. Y tu allan i’r ysgol mae Owain Gethin yn mwynhau cerdded ei gi ‘Winston’ a chodi arian i elusennau lleol drwy nifer o heriau ffitrwydd.  

Owain Gethin Davies

Cwrdd â Charfan 7

Gweld y Cyfan
Nick Hudd

Cydymaith

Mike Tate

Cydymaith

Jonathan Angell

Cydymaith