Skip to main content
English | Cymraeg

Nick Hudd

Cydymaith

Ar hyn o bryd mae Nick Hudd yn Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid i Gyngor Sir Benfro ac mae wedi gweithio yn y sector gwaith ieuenctid ers dros 20 mlynedd, ar gyfer sefydliadau statudol a gwirfoddol. Mae Nick yn weithiwr ieuenctid cymwysedig JNC ac mae ganddo BA(Anrh) mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned o’r Drindod Dewi Sant. Mae wedi gweithio yn ei rôl bresennol, gan ganolbwyntio ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc dros y 5 mlynedd diwethaf.  

Mae Nick wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu, cynllunio, hwyluso a gwerthuso ystod o raglenni ac ymyriadau gwaith ieuenctid ac mae’n credu bod adnabod a chyd-gynhyrchu cynnar, gan gynnwys pobl ifanc, ystod o randdeiliaid proffesiynol a chynrychiolwyr cymunedol yn allweddol i’w llwyddiant. Gyda gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i anelu at bobl ifanc 11-25 oed, mae’n credu y gall ei addysgeg a’i fethodoleg ategu mathau eraill o addysg i gynorthwyo’r newid o ddibyniaeth i annibyniaeth. 

Yn ogystal â’i rôl bresennol yn mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae Nick hefyd yn eiriolwr dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddatblygu eu hunaneffeithiolrwydd fel bod ganddynt gred yn eu galluoedd eu hunain i fynd ymlaen a chyflawni ym mhob agwedd ar eu bywydau. Felly, mae wedi datblygu ystod o becynnau ac adnoddau hyfforddi hunan-effeithiolrwydd sy’n cynorthwyo ymarferwyr i ymgorffori’r elfennau hyn yn eu hymgysylltiad a gweithio gyda phobl ifanc. 

Mae Nick yn briod â Kerry, ac mae’r ddau yn rhieni i Keeley, Dylan a Seren. Y tu allan i waith ieuenctid mae Nick yn mwynhau paentio a darlunio, portreadau yn bennaf. Ac mae’n gefnogwr brwd o rygbi a F1. 

Nick Hudd

Cwrdd â Charfan 7

Gweld y Cyfan
Mike Tate

Cydymaith

Jonathan Angell

Cydymaith

Emma Turner

Cydymaith