Mae Lorraine Dalton yn Bennaeth Ysgol Bryn Gwalia yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Cyn hyn roedd Lorraine yn Ddirprwy Brifathro yn Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac wrth ddysgu yma yn 2018 enillodd Wobr Athro y Flwyddyn Llywodraeth Cymru. Mae Lorraine wedi bod yn Bennaeth ers mis Ionawr 2021 ac mae hi hefyd wedi bod yn Arolygydd Cyfoed i Estyn ers blynyddoedd lawer. Ei nod yw arwain drwy esiampl a nodwyd hyn gan yr ymweliad diwethaf gan Estyn yn yr ysgolion lle gwnaethant ddisgrifio Lorriane fel arweinydd ‘tosturiol a gofalgar’.
Mae Lorraine hefyd yn mentora penaethiaid newydd ac mae hi’n gwerthfawrogi’r rôl honno’n fawr. Mae hi’n mwynhau gweld staff yn datblygu’n broffesiynol ac yn eu hannog i wneud hynny ar bob cyfle. Mae Lorraine hefyd yn hoffi annog ei disgyblion i fod yn ‘Wneuthurwyr Newid Cymdeithasol’ yn y gymuned ac i ddylanwadu ar eraill.
Mae Lorraine yn byw yn Llanelwy gyda ei gŵr a thair merch. Mae hi’n mwynhau cerdded, darllen a theithio. Mae hi’n edrych ymlaen at gael y cyfle i rwydweithio gyda’r sectorau eraill sy’n ymwneud â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol drwy gydol y ddwy flynedd nesaf.