Skip to main content
English | Cymraeg

Dr Dale Duddridge

Cydymaith

Ar hyn o bryd mae Dr Dale Duddridge yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Maesteg lle mae ganddo gyfrifoldeb penodol dros Gwricwlwm ac Addysgu a Dysgu. Dechreuodd ei yrfa fel athro Saesneg mewn ysgol uwchradd fawr yng Nghaerwrangon lle aeth ymlaen i fod yn Athro Sgiliau Uwch ac yn Bennaeth Saesneg. Roedd bob amser yn awyddus i ddychwelyd i Gymru i ysgol yn gwasanaethu cymuned yn y cymoedd, ar ôl mynychu’r math yma o ysgol fel disgybl ei hun. Ymunodd ag Ysgol Maesteg yn 2014 fel Pennaeth Cynorthwyol ac mae’n mwynhau bod yn rhan o dîm ymroddedig ac angerddol o ymarferwyr. Mae arwyddair yr ysgol (‘Cymhelliant i Ymdrechu’) yn sail i bob agwedd ar ethos yr ysgol gyda disgyblion ac athrawon bob amser yn uchelgeisiol am y profiad gorau posibl o fewn addysg. Ochr yn ochr â gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ar draws Partneriaeth De Cymru, mae hefyd yn aelod o grŵp Polisi Llywodraeth Cymru. Mae’n ystyried bod y rhain yn ffyrdd amhrisiadwy o gefnogi rhannu syniadau ac mae bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio dull enillion ymylol o wella ysgolion. 

Mae Dale wrth ei fodd i fod yn Gydymaith gan ei fod yn credu bod arweinyddiaeth yn sail i bob agwedd ar fywyd yr ysgol a gall ei archwilio gwella’r ffordd y mae pob unigolyn mewn ysgol (gan gynnwys disgyblion) yn cyflawni eu rôl yn effeithiol a chyda mwynhad. Trwy gryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel ac ar draws systemau, mae Dale yn hyderus y gall Cymru gyflawni’r uchelgeisiau uchel y mae wedi’u gosod iddi ei hun ac felly dod yn arweinydd byd ym myd addysg. Mae’n frwd dros ddysgu proffesiynol ac mae’n mwynhau cefnogi cydweithwyr eraill i gyflawni eu dyheadau arweinyddiaeth eu hunain. Mae Dale yn ddarllenwr brwd, yn aml gyda thri llyfr ar y gweill ar unrhyw un adeg, ac mae’n mwynhau pob math o theatr a chyngherddau. Mae Dale hefyd yn gwneud y gorau o unrhyw gyfle i deithio ac anaml y bydd i’w weld yn y wlad yn ystod unrhyw seibiant ysgol. 

Dr Dale Duddridge

Cwrdd â Charfan 7

Gweld y Cyfan
Nick Hudd

Cydymaith

Mike Tate

Cydymaith

Jonathan Angell

Cydymaith