Siân Thomas yw pennaeth Ysgol Woodlands, sy’n rhan o Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin. Dechreuodd taith Siân fel Ymarferydd Addysgol yng Nghasnewydd mewn Ysgol Gynradd, 25 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae hi wedi profi ac arwain llawer o leoliadau addysgol gwahanol ac wedi dal amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau. Ei gweledigaeth a’i gwerthoedd yw’r sylfeini ar gyfer ei harweinyddiaeth effeithiol.
Drwy gydol ei hamser mae Siân wedi addysgu ac arwain plant 3-11 oed yn y brif ffrwd a phlant 11-19 oed mewn ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae ei hangerdd dros addysg yn parhau wrth iddi anelu at sicrhau bod holl anghenion disgyblion yn cael eu diwallu, a bod Addysgeg wrth galon popeth mae’n ei wneud.
“Rwy’n ymdrechu i ddatblygu arweinwyr y dyfodol ym mhob ymarferwr trwy fod yn fodel rôl ragorol a’u cefnogi ar eu taith ddysgu fel hyfforddwr a mentor.
Wrth wraidd lles fy nisgyblion mae gallu eu cefnogi’n gyfannol a thrwy ffyrdd creadigol wrth iddynt baratoi ar gyfer bywyd ar ôl ysgol. Mae gen i athroniaeth i gael ‘ysgol heb waliau’ sy’n golygu ein bod yn annog ac yn cefnogi ein disgyblion yn y gymuned ehangach. Mae hyn yn ein hymgorffori fel Ysgol fel Sefydliad sy’n Dysgu, wrth barhau i fod yn fyfyriol, yn ymatebol ac yn atebol.”
Mae Siân yn hoff iawn o chwaraeon ac yn chwarae pêl-rwyd mewn cynghrair leol.