Mae Owain Roberts wedi bod yn bennaeth Ysgol Cybi yng Nghaergybi ers Medi 2019. Mae gan Owain brofiad helaeth yn y sector addysg gan gynnwys fel pennaeth mewn pedair ysgol gyferbyniol iawn a gweithredu fel Arolygydd Cymheiriaid i Estyn ers dros ddeng mlynedd.
Addysgwyd Owain yn Ysgol Y Graig, Llangefni ac yna Ysgol Gyfun Llangefni cyn symud ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i gwblhau graddau is ac ôl-raddedig, ac yna ymlaen i Brifysgol Bangor i gwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion.
Daw Owain yn wreiddiol o Langefni, Ynys Môn ond mae wedi bod yn byw yng Nghaernarfon ers 15 mlynedd. Mae’n briod i Llinos ac yn dad i ddau o blant, Lliwen a Caio. Mae prif ddiddordebau Owain yn cynnwys treulio amser gyda theulu a ffrindiau, darllen, cerdded a chwarae sboncen i glwb lleol.