Mae’r Gyfres Mewnwelediad yn cyflwyno meddwl newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ffurf comisiynau ymchwil, adolygiadau o lenyddiaeth polisi a darnau barn ac academaidd rhyngwladol.
Rydym am i les arweinwyr addysgol gael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr, i ddatblygu dull mwy strategol o fuddsoddi yn yr ‘arweinydd cyfan’.
Rydym yn gweithio tuag at greu system lle mae rolau arwain yn ddeniadol ac mae arweinwyr yn cael eu cymell i aros a datblygu o fewn y proffesiwn. I gefnogi hyn, mae angen casglu, dadansoddi a chyhoeddi data diweddar a defnyddiol ar recriwtio a chadw arweinwyr addysgol er mwyn llywio cynigion strategol.