Mae Cyfres Mewnwelediad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cyflwyno safbwyntiau newydd ar arweinyddiaeth addysgol a fydd o ddiddordeb i ymarferwyr a llunwyr polisi yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r Gyfres Mewnwelediad yn cyflwyno syniadau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth arweinyddiaeth addysgol – ar ffurf comisiynau ymchwil, adolygiadau o bolisi rhyngwladol a llenyddiaeth academaidd a darnau barn – a fydd yn herio ac yn llywio dulliau sefydledig o ymdrin â pholisi ac ymarfer.