Rydym yn gyffrous i gyhoeddi cynhadledd haf yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, Ail-ddychmygu Presenoldeb Addysg mewn Byd Wedi’r Pandemig.
Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i arweinwyr addysgol o bob lleoliad glywed gan arbenigwyr blaenllaw sy’n rhannu’r ymchwil ddiweddaraf ac yn archwilio’r materion cymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar bresenoldeb, llunwyr polisi, arweinwyr ac ymarferwyr. Yn cynnwys, Syr Alasdair Macdonald ((Cadeirydd Darpariaeth Amgen Dwyrain Llundain a Chadeirydd y Grŵp Gweledigaethau Newydd ar gyfer Addysg), Dr James Mannion (Cyfarwyddwr, Rethinking Education) a mwy.
Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid, y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ac arweinwyr o awdurdodau lleol a byrddau gwaith ieuenctid.
Cofrestru’n hanfodol