Bydd y gynhadledd hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd cyfieithiad byw ar gael.
Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050
Dydd Mercher 1 Mai 2024 9yb-4yp
Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi’r gynhadledd gyntaf o’i math gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, ‘Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050’.
Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i arweinwyr addysgol o bob lleoliad ddathlu eu llwyddiannau wrth ddatblygu’r Gymraeg yn eu sefydliadau ac archwilio’r camau nesaf i wireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynnwys:
- Owain Lloyd, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
- Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
- Jonathan Cooper AEF, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
- Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr, Mentrau Iaith Cymru
- Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau (Cenhedloedd), Grŵp City & Guilds
- Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau, Urdd Gobaith Cymru
- Gwennan Schiavone, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG)
- Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd
- Natalie Jones, Gweithredwr Cynnwys Addysg, S4C
- Gavin Ashcroft, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn
- Dafydd Hughes, Pennaeth, Ysgol Caer Elen
- Meurig Jones, Pennaeth, Ysgol Gyfun Llangynwyd
Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol.
Rhaglen y Gynhadledd