Teitl y ddarpariaeth wedi’i chymeradwyo: Rhaglen Ddatblygu ar gyfer Penaethiaid Dros Dro a Phenaethiaid Newydd
Dyddiad cymeradwyo: Gorffennaf 2018
Manylion cyfredol y sefydliad: CSC, EAS, ERW, GwE
Fe wnaethon ni gais am gymeradwyaeth gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i’n Rhaglen Datblygu ar gyfer Penaethiaid Dros Dro a Phenaethiaid Newydd. Mae’r rhaglen wedi bod ar waith ers Medi 2018 ac mae nawr yn darparu i’w drydydd cohort o gyfranogwyr.
Fe wnaethon ni gais i’r rhaglen gael ei chymeradwyo fel rhan o’r llwybr arweinyddiaeth cenedlaethol. Roedd canllawiau’r broses ymgeisio’n glir a dilyniannol ac fe roddwyd yr holl ddyddiadau ar gyfer y broses a’r camau ymlaen llaw. Drwy ddilyn y canllawiau clir roedd y broses yn hawdd.
Fe wnaethon ni gais am gymeradwyaeth fel bod ein rhaglen yn cario nod yr Academi Arweinyddiaeth a’i bod yn cael ymddangos ar wefan y sefydliad a’i rhannu drwy ei chysylltiadau. Roedd hi’n bwysig i ni dderbyn cymeradwyaeth fel y gall cyfranogwyr y dyfodol weld bod ein darpariaeth wedi bod trwy broses sicrhau ansawdd drylwyr, a’i bod o safon uchel o ganlyniad.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cymeradwyaeth gan yr Academi Arweinyddiaeth i fwy o’n rhaglenni a newydd gyflwyno cais am gymeradwyaeth i’n Rhaglen Ddatblygu Uwch Arweinwyr.
“[Mae’r rhaglen] wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o fy arddulliau arwain fy hun a pha mor hanfodol yw defnyddio dylanwad personol i ennill calonnau a meddyliau pobl er mwyn cyflawni pwrpas cyffredin.” – Cyfranogwr