Rwy’n cofio cyrraedd Ysgol y Strade, yn Llanelli ym mis Chwefror, 2005 am 8:00 y bore. Roeddwn yn nerfus – ac awr yn gynnar ar gyfer cyfweliad. Doeddwn ddim i wybod mai hwn fyddai’r cam cyntaf i fy ngyrfa dysgu ac y byddwn yn hapus iawn yn y Strade am 7 mlynedd. Rwy’n adlewyrchu ar fy nghyfnod yno fel un wnaeth fy maethu a rhoi sylfaen cadarn iawn i mi ar gyfer dyfodol fel arweinydd mewn ysgolion.
Cefais arweiniad arbennig o dda yn ystod fy swydd gyntaf yn Llanelli – cymysgedd o her ac anogaeth. Wrth fyfyrio ar y cyfnod yno, rwy’n sylwi pa mor bwysig yw geiriau arweinwyr i athro ifanc, brwdfrydig, naïf. ‘Rwyt ti wedi cyfweld yn dda iawn,’ meddai Mr Geraint Roberts, y prifathro, ‘ond, mae’n rhaid i ti gadw’r safon yn awr a datblygu ymhellach’. A dyna beth oedd yn atsain yn fy nghlustiau wrth ddychwelyd i fy nghar – VW polo porffor, i ffonio Mam, Dad a Mam-gu gyda’r newyddion da. Roedd yn amlwg bod y gefnogaeth yna ond roedd yr her yn glir hefyd.
Fel uwch arweinydd ers dros 10 mlynedd bellach, rwy’n adlewyrchu ar y cyngor a’r cyfleoedd ges i ar ddechrau fy ngyrfa. Pan ddaeth cyfleoedd i fynychu cyrsiau neu raglenni datblygu proffesiynol, mi fyddwn yn eu cymryd yn amlach na pheidio. Fe wnes i gymryd y cyfle gwerthfawr iawn i fod yn athro lywodraethwr – profiad byddwn yn argymell unrhyw athro i’w gymryd. Fe wnes i wrando ar arweinwyr hefyd pan fyddai cyngor yn cael ei rannu – ‘wyt ti wedi ystyried ceisio am swydd pennaeth blwyddyn?, byddet ti’n dda yn y swydd’ ddywedodd dirprwy bennaeth wrthyf. Rwy’n credu mai’r peth cywir i wneud yn y sefyllfa yna yw derbyn y sylw gyda diolch ac yna rhoi ystyriaeth lawn iddo. Fy nghyngor i athrawon ac arweinwyr newydd i’w swydd fyddai i beidio diystyri sylw fel hyn na’i gwthio i’r ochr o dan domen o sylwadau eraill.
Fe wnes i adael y Strade wedi cael profiadau arbennig – nid yn teimlo fy mod wedi cael fy llusgo i fyny’r strwythur ysgol i fod yn uwch arweinydd, ond gan deimlo fy mod wedi cael fy ngwthio i ddatblygu fel athro ac arweinydd – trwy eiriau bach tawel o her a chefnogaeth. Cofiwch effaith eich geiriau fel arweinydd.
Dydy’r amser cywir na’r amgylchiadau perffaith i fynd am ddyrchafiad byth yn dod. Rwy’n clywed llawer o bobl yn gwrthod cyfle cyfweld am swydd uwch arweinydd oherwydd ‘bod yr amser ddim yn iawn’ neu oherwydd ‘does dim digon o brofiad gennyf’ neu ‘galla i ddim gwneud hynna’. Ond, byddai pob uwch arweinydd wedi gallu dweud hyn ar un adeg. Gallwch chi ddim cael profiadau o fod yn ddirprwy bennaeth neu bennaeth heb wneud y swydd – mae’n rhaid i chi fynd amdani a dangos bod y sgiliau a’r rhinweddau gyda chi fydd yn eich galluogi i ddysgu wrth ddatblygu yn y swydd. Gewch chi ddim o’r profiad heb gymryd y swydd. Ydy, mae hynny’n naid sy’n gallu codi ofn, ond – am beth rydych chi’n aros?
Chwilio am swydd Pennaeth Cynorthwyol oeddwn i pan hysbysebwyd swydd Ddirprwy yn Ysgol Gyfun Aberaeron – doedd y swydd ddim yn berffaith i mi ond roedd rhaid mynd amdani. Yn yr un modd, doedd derbyn swydd pennaeth dros dro ddim yn berffaith. 24awr wedi i mi dderbyn y swydd, gannwyd Osian – plentyn cyntaf fy ngwraig a finnau. Awr a 4 munud yn hwyrach ganwyd Sara! Roeddwn yn Bennaeth newydd ac yn Dad am y tro cyntaf o fewn 24 awr. Nid oedd hwn yn amser perffaith felly ar yr olwg gyntaf ond fe wnaeth fy helpu i reoli amser yn effeithiol iawn ac i fod yn ddisgybledig. Roeddwn yn sicrhau fy mod yn gadael yr ysgol erbyn 5yp pob nos (oni bai bod noson rieni neu debyg yn yr ysgol) er mwyn gallu mynd adref at fy nheulu. Rhoddodd hyn ffocws i sicrhau fy mod yn gweithio’n effeithlon bob amser a’r ddealltwriaeth o’r angen i gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a theulu.
Fy nghyngor i;
Ewch Amdani – am beth rydych chi’n aros?