Skip to main content
English | Cymraeg

Richard Carbis

Rhanddeiliad

Richard Carbis yw fy enw i ac yr wyf wedi cael y cyfle i arwain pedair Ysgol Gynradd.  Yn y flwyddyn 2008, yn fy swydd gyntaf fel Pennaeth, agorais Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, cyn symud i fod yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Ysgol Pencae ac Ysgol Gynradd Groes-wen Primary School yng Nghaerdydd.  Ym Medi 2023, agorais Ysgol Groes-wen. Model newydd ydyw sydd yn cynnig ffrwd categori iaith 2 a ffrwd categori iaith 3.  Mae hi’n fraint i arwain yr ysgol gyntaf o’i math yng Nghymru ac yn sicr yn anrhydedd i groesawu rhieni a gwarcheidwaid newydd i’r syniad o’r Gymraeg fel iaith iddyn nhw.  

Dros gyfnod fy ngyrfa, cefais fy secondio i amryw o rolau gan gynnwys Arweinydd Strategol Arweinyddiaeth, Swyddog Strategol y Gymraeg ac Arweinydd Systemau ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.  

Cefais fy hyfforddi fel hwylusydd ac yr wyf wedi hyfforddi sawl arweinydd erbyn hyn.  Yr wyf yn arwain y cwrs Arweinwyr Canol i Ysgolion Cymraeg i Ranbarth CCD. Yr wyf hefyd wedi hyfforddi fel rheolwr newid.  

Fel Cadeirydd Ffederasiwn Ysgolion Cymraeg y Rhanbarth, yr wyf yn gyfrifol am greu rhaglen dysgu broffesiynol ac fel Cadeirydd Deilliant 7 CSCA Caerdydd, yr wyf yn gyfrifol am gefnogi pob ymgyrch recriwtio i Ysgolion Cymraeg. 

Mae llawer o brofiad gennyf fel yr ydych yn gallu gweld ond nid wyf yn anghofio’r fraint fy mod i yma i wneud y gorau posib dros bob plentyn yn fy ngofal. Hyn sydd yn fy ngyrru o ddydd i ddydd, hyn sydd yn tanio’r tân yn fy mol ac yn sicr hyn sydd yn llenwi’r bwced – dyma fy hoff ddyfyniad; ‘Education is not filling a bucket but lighting a fire’ – William Butler Yeats. 

Richard Carbis

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Caroline Lewis

Rhanddeiliad

Sian Evans

Rhanddeiliad

Julie Moseley

Rhanddeiliad