Skip to main content
English | Cymraeg

Michele Thomas

Rhanddeiliad

Michele Thomas yw Pennaeth Ysgol Gymunedol Doc Penfro, sy’n ysgol gynradd gymunedol fawr gyda thua 650 o ddysgwyr, wedi’i lleoli mewn ardal dan anfantais economaidd yn Sir Benfro. Mae gan yr ysgol Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD) arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth yn ogystal â darpariaeth Dechrau’n Deg. Mae Michele wedi bod yn bennaeth ers ugain mlynedd, gyda thair ar ddeg ohonynt wedi bod yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro, fel ei hail brifathrawiaeth barhaol. Mae Michele yn arolygydd cymheiriaid profiadol Estyn.

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn ysgol bartner mewn rhwydwaith gyda’r Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar gyfer darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac roedd yn Ysgol Arloesi Dysgu Proffesiynol a oedd yn cefnogi datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae Michele ar y grŵp llywio Pedagogeg Siarad Cenedlaethol, yn gynrychiolydd clwstwr ar gyfer grŵp llywio Cwricwlwm, Addysgeg ac Asesu Sir Benfro, yn gynrychiolydd penaethiaid ar Fforwm Derbyniadau Sir Benfro, yn gynrychiolydd clwstwr PAPH ac yn gynrychiolydd ar Fforwm Cyllideb Sir Benfro. Mae hi hefyd yn gynrychiolydd ar grŵp llywio Asesiad Sir Benfro a gweithgor Recriwtio a Chadw Sir Benfro, ac mae’n fentor i benaethiaid newydd.

Cyrhaeddodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro rownd derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ddiweddar ar gyfer y categori newydd – gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae gan yr ysgol bartneriaethau a rhwydweithiau niferus yn lleol ac yn genedlaethol. Maent hefyd yn rhannu eu gwaith yn helaeth ar Twitter @PDCSPrimary @HeadPdcs ac ar wefan yr ysgol www.pembrokedockcommunityschool.co.uk.

Michele Thomas

Ein Rhanddeiliaid

Gweld y Cyfan
Caroline Lewis

Rhanddeiliad

Sian Evans

Rhanddeiliad

Julie Moseley

Rhanddeiliad