Skip to main content
English | Cymraeg
Blwyddyn wych fel Secondiad yr Academi Arweinyddiaeth

Blwyddyn wych fel Secondiad yr Academi Arweinyddiaeth

Mae wedi bod yn flwyddyn wych hyd yn hyn i mi fel secondiad gyda’r Academi Arweinyddiaeth – mae’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael a’r amlygiad i ddysgu proffesiynol o’r radd flaenaf wedi newid fy mywyd. Mae ymgymryd â rhaglen hyfforddi (coetsio) yn ddiweddar wedi bod yn un o brofiadau mwyaf gwerthfawr fy ngyrfa – yn broffesiynol ac yn bersonol, rwyf eisoes yn defnyddio’r dysgu o’r sesiynau yn fy arferion arweinyddiaeth fy hun.

Mae ein gwaith lles yn parhau i godi momentwm gyda’n Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Lles Arweinwyr Addysgol. Mae ein gweithgor yn cynnwys cynrychiolaeth o bob haen o’r system addysg, academyddion addysgol a gweithwyr proffesiynol o’r sector iechyd Maent yn edrych ar sut yr ydym ni yn gallu creu newid diwylliannol o ran mynd i’r afael â lles ein harweinwyr addysgol. Yn ogystal â hyn rydym wedi comisiynu Dr Ali Davies, Seicolegydd Clinigol o sector iechyd Cymru i archwilio’r syniad o ‘Arweinyddiaeth Dosturiol’ o fewn addysg.

Mae’r gofod wythnosol Pen-i-Ben yn parhau i gefnogi lles ein harweinwyr yn llwyddiannus trwy gynnig amgylchedd diogel, anfeirniadol a chyfrinachol iddynt lle gallant neilltuo hanner awr o’u hwythnos i’w hunain fel rhan o’u hunanofal, adnewyddu arweinyddiaeth a chynaliadwyedd. Mae ein dyheadau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynnig lle tebyg i’n Dirprwyon a’n Penaethiaid Cynorthwyol felly edrychwch allan am hyn!

Mae ein hail gyfres Arloesedd ar y gweill ac mae arweinwyr o bob cwr o Gymru yn ymuno â’r sesiynau, wedi’u hwyluso gan Larry Shulman – Ymgynghorydd Arweinyddiaeth, Strategaeth a Newid. Mae Larry yn archwilio thema’r ‘Arweinydd Arloesol’, gan dynnu ar ei brofiad yn y maes hwn a’i wneud yn berthnasol i’r cyd-destun addysgol a gweithredu Cwricwlwm i Gymru.

Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol ac yn arwain sesiwn lles yn eu hwythnos Ffocws Arweinyddiaeth Genedlaethol (28 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021). Bydd yr Academi Arweinyddiaeth a Maggie Farrar yn cynnal gweithdy o’r enw: Adnewyddu Arweinyddiaeth: Sut i ofalu ar ôl eich lles eich hunain a’ch staff yn well.

Rwyf wedi mwynhau adeiladu perthnasoedd gyda fy nhîm, y Cymdeithion, gyda chydweithwyr ar draws yr haenau yn y system addysg yn ogystal â ledled ein gwlad ac edrychaf ymlaen at barhau â fy secondiad gyda’r Academi Arweinyddiaeth yn 2021/2022.

Nia Miles, Ymgynghorydd Arloesi a Lles 

Yn ôl