Skip to main content
English | Cymraeg

Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rydym wrth ein bodd bod Meleri Light, Pennaeth y Gymraeg yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, wedi’i phenodi’n un o saith aelod newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Sefydlwyd y Cyngor o dan Adran 149 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Diben y Cyngor yw darparu canllawiau a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Gymraeg a gweithredu strategaeth y Gymraeg.

Bydd yr Aelodau’n cefnogi gweithrediad y strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, sy’n anelu at hyrwyddo hwyluso a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.

Bydd Meleri yn gwasanaethu ar y Cyngor am y tair blynedd nesaf a bydd aelodau newydd yn ymuno â hi: Anwen Eluned Davies, Meurig Jones, Manon Cadwaladr, Tegryn Jones, Savanna Jones ac Owain Wyn.

Meddai Meleri am ei rôl newydd, “Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn i gael bod yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn cael dysgu a rhannu syniadau am weledigaeth Cymraeg 2050. Mae’r profiad hyd yma wedi bod yn un gwerthfawr a buddiol tu hwnt ac edrychaf ymlaen am y cyfarfodydd nesaf gyda’r Cyngor.”

Yn ôl