Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gofyn i arweinwyr o bob rhan o’r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) rannu eu barn, a’u profiadau yn eu Harolwg Arweinyddiaeth Genedlaethol cyntaf.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth yr ydym yn ei chasglu i lywio – a herio – polisi ac arfer ar draws ein system. Bydd y canlyniadau hefyd yn ein helpu i ddeall yn well sut mae arweinwyr yn ymgysylltu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar hyn o bryd fel y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn cefnogi ac yn datblygu arweinyddiaeth addysgol ledled Cymru.