Mae Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi’i wahodd i fod yn Gydymaith Cenedlaethol i’r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Arweinyddiaeth mewn Addysg (CIRLE) ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Lansiwyd CIRLE ar 7 Medi 2023 ac mae’n ganolfan ymchwil sydd â’r nod o sefydlu cysylltiadau rhyngwladol strategol a phartneriaethau ymchwil er mwyn llywio ymchwil i arweinyddiaeth addysgol. Mae CIRLE yn gysylltiedig ag 20 o bartner brifysgolion ar draws y byd gan gynnwys Prifysgol Melbourne, Prifysgol Sydney, Prifysgol Hong Kong, Prifysgol Northwestern Chicago, Sefydliad Cenedlaethol Addysg yn Singapore a Phrifysgol Murcia yn Sbaen.
Mae ymchwil CIRLE yn canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu:
Dywedodd Tegwen Ellis, “Rwy’n falch iawn o gael fy enwi’n Cydymaith Cenedlaethol o’r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Arweinyddiaeth mewn Addysg. Mae’n fraint ymuno â chymuned sydd wedi ymrwymo i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am arweinyddiaeth ac edrychaf ymlaen at hyrwyddo cysylltiadau y tu hwnt i ffiniau, gan ymhelaethu ar effaith ymchwil ar raddfa wirioneddol ryngwladol.”
Mae Cymdeithion Cenedlaethol yn cyfrannu at wella’r sylfaen ymchwil ar arweinyddiaeth mewn addysg trwy gydweithio rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Alma Harris, “Fel Canolfan Brifysgol, nod CIRLE yw arwain ymchwil a datblygiad ym maes arweinyddiaeth mewn addysg trwy ei gysylltiadau rhyngwladol strategol, partneriaethau ymchwil a rhwydweithiau arbenigol er mwyn cynhyrchu gwybodaeth ac ysgolheictod newydd o amgylch thema eang arweinyddiaeth mewn addysg. Mae CIRLE eisoes yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gyfraniad ymchwil ym maes arweinyddiaeth mewn addysg.
“Mae CIRLE yn gysylltiedig â chymuned ddeallusol ryngwladol ddeinamig. Mae’n ymwneud ag ymchwil gydweithredol ryngwladol o ansawdd uchel ac yn gartref i’r cyfnodolyn rhyngwladol SCOPUS ‘School Leadership and Management’ (SLAM).
Mae Cymdeithion Rhyngwladol a Chenedlaethol CIRLE yn arweinwyr ym maes arweinyddiaeth mewn addysg a thrwy eu gwaith fel ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr byddant yn dod â mewnwelediadau newydd pwysig i waith y Ganolfan.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Alma Harris AHarris@cardiffmet.ac.uk.